Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Geiriau o gyngor

Dyma rai syniadau syml ar gyfer arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gartref:

  • Manteisio ar wasanaeth casglu 'ymyl y pafin' eich cyngor lle bo ar gael;

  • Ailgylchu wrth siopa. Mae modd dod o hyd i'r man ailgylchu agosaf trwy ddefnyddio chwiliadur y wefan yma fel y gallwch chi gael gwared cyn siopa;

  • Freecle Y cwbl mae angen ei wneud yw eu hysbysebu’n rhad ac am ddim ar dudalen cangen leol Freecycle a bod yn barod i’w rhoi i bobl heb godi tâl.  Yn ôl pob tebyg, fe ddaw rhywun i’ch cartref i’w nôl.  Cliciwch ar logo Freecycle i fanteisio ar y gwasanaeth.  Mae Freecycle yn ffordd wych o ddod o hyd i bethau mae eu heisiau arnoch chi, hefyd;

  • Wrth siopa, dewis nwyddau y gallwch chi eu hail-lenwi (e.e. cyflyrwyr brethyn, chwistrelli diarogli).

  • Peidio â derbyn bagiau plastig wrth dalu am nwyddau, a defnyddio bag go iawn yn eu lle.

  • Holi staff y siop a ydyn nhw'n ailgylchu bagiau plastig - mae mannau casglu yn siopau Adsa, Sainsburys, Tesco, Morrisons a Somerfield.

  • Cadw bwyd mewn llestri yn lle clingfilm a phapur arian.

  • Prynu llaeth mewn poteli i'w dychwelyd yn lle'r rhai plastig.

  • Prynu batrïau y gallwch chi eu hailwefru.

  • Dewis cewynnau a hancesi go iawn yn lle'r rhai papur.  Cewch chi ragor o wybodaeth am gewynnau brethyn trwy ffonio Gwifren Gyngor Cewynnau Go Iawn Cymru – 0845 456 2477.