Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Geiriau o gyngor


  • Mynd â dillad a phethau eraill o'r cartref nad oes eu heisiau arnoch chi i siopau elusen neu ffeiriau sborion.

  • Golchi poteli a jariau cyn eu rhoi i'w hailgylchu neu, yn well fyth, eu defnyddio nhw eto.

  • Gwasgu caniau gwag fel y bydd digon o le i ragor.

  • Gofalu eich bod yn dodi'r deunydd priodol ym mhob man ailgylchu (mae amryw fathau o bapur, er enghraifft).

  • Mae modd troi rhyw draean o sbwriel eich cegin a'ch gardd yn wrtaith.  Gallwch chi roi dogfennau cyfrinachol yn y bin compost, hefyd, ar ôl eu rhwygo'n garpiau.

  • Os nad oes gardd gyda chi i ailgylchu sbwriel o'r gegin, gallwch chi gymryd rhan mewn cynllun cymunedol.  Cewch chi wybodaeth am gynlluniau o'r fath trwy gyrchu  www.communitycompost.org neu ffonio 0114 258 0483.

  • Oes gwir angen y peth arnoch chi?  Dylech chi ofyn y cwestiwn yma bob tro wrth siopa.  Allwch chi ailddefnyddio neu drwsio'r hyn sydd gyda chi neu oes nwyddau eildro ar gael?  O brynu nwyddau eildro, byddwch chi'n creu galw am y pethau wedi'u casglu o fannau ailgylchu a bydd llai o sbwriel yn mynd i'r domen o ganlyniad.