Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Geiriau o gyngor
Dyma rai syniadau syml ar gyfer arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gartref:
- Manteisio ar wasanaeth casglu 'ymyl y pafin' eich cyngor lle bo ar gael;
- Ailgylchu wrth siopa. Mae modd dod o hyd i'r man ailgylchu agosaf trwy ddefnyddio chwiliadur y wefan yma fel y gallwch chi gael gwared cyn siopa;
- Freecle Y cwbl mae angen ei wneud yw eu hysbysebu’n rhad ac am ddim ar dudalen cangen leol Freecycle a bod yn barod i’w rhoi i bobl heb godi tâl. Yn ôl pob tebyg, fe ddaw rhywun i’ch cartref i’w nôl. Cliciwch ar logo Freecycle i fanteisio ar y gwasanaeth. Mae Freecycle yn ffordd wych o ddod o hyd i bethau mae eu heisiau arnoch chi, hefyd;
- Wrth siopa, dewis nwyddau y gallwch chi eu hail-lenwi (e.e. cyflyrwyr brethyn, chwistrelli diarogli).
- Peidio â derbyn bagiau plastig wrth dalu am nwyddau, a defnyddio bag go iawn yn eu lle.
- Holi staff y siop a ydyn nhw'n ailgylchu bagiau plastig - mae mannau casglu yn siopau Adsa, Sainsburys, Tesco, Morrisons a Somerfield.
- Cadw bwyd mewn llestri yn lle clingfilm a phapur arian.
- Prynu llaeth mewn poteli i'w dychwelyd yn lle'r rhai plastig.
- Prynu batrïau y gallwch chi eu hailwefru.
- Dewis cewynnau a hancesi go iawn yn lle'r rhai papur. Cewch chi ragor o wybodaeth am gewynnau brethyn trwy ffonio Gwifren Gyngor Cewynnau Go Iawn Cymru – 0845 456 2477.

