Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Abertawe

Casgliadau o Ymyl y Ffordd
Mae Abertawe yn cynnig casgliad pob pythefnos ar gyfer poteli a jariau gwydr, papur a chaniau. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch a Dinas a Sir Abertawe.

Safleoedd Banciau Danfon
Mae yna 20 safle banciau danfon yn Abertawe ac maent yn casglu amrywiaeth o ddefnyddiau gan gynnwys papur, gwydr, caniau a thecstilau. I gael manylion am eich safle agosaf defnyddiwch ein chwiliwr safleoedd.

Safleoedd Amwynderau Dinesig
Mae 5 o Safleoedd Amwynderau Dinesig yn Abertawe

  • Ferry Close, Llansamlet
  • Derwen Fawr Road, Y Clun
  • Phoenix Way, Gorseinon
  • Heol Gwyrosydd, Penlan
  • Danygraig Road, St Thomas

Mae pob safle ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng 8am a 6.30pm yn yr haf a rhwng 8.30am a 5pm yn y gaeaf.

Cynllun arbrofol ar gyfer ailgylchu batrïau
Cewch chi fynd â’ch hen fatrïau i’r siopau isod i’w hailgylchu:

  • Argos, Tesco a Currys.Digital ym Mharc Fforest-fach;
  • Currys a PC World yn Valley Way;
  • B&Q ym Mharc Manwerthu Morfa;
  • Homebase yng Ngogledd Parc Tawe;
  • Argos yn y Stryd Fawr;
  • Canghennau Tesco yn Heol Bryn-y-mor, Albert Row a Heol Nantyffin.

Dyma wybodaeth ynghylch pa fatrïau sy’n cael eu derbyn: http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=14876

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch a Dinas a Sir Abertawe.

Cyfeiriad
  • Tîm Ailgylchu
    D/o Pennaeth y Gwasanaeth
    Adran yr Amgylchedd,
    Neuadd y Dref, Abertawe
    SA1 4PE

  • Llinell Gymorth yr Amgylchedd
  • 01792 462067
  • recycling@swansea.gov.uk