Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Y 10 awgrym gorau ar gyfer haf heb wastraff

Tweet

I'ch helpu i arbed gwastraff dros yr haf, hoffai Cynllun 'Craff am Wastraff' awgrymu rhai camau y gallech chi eu cymryd:

  1. Pan foch chi allan, dylech chi ofalu eich bod yn ailgylchu cymaint o'ch sbwriel ag y bo modd.  Os nad oes cyfleusterau ailgylchu gerllaw, ewch â'r gwastraff adref a'i ailgylchu yno ynghyd â'ch sbwriel arall.bbq


  2. Os trefnwch chi barti, rhaid cael gwybod faint o bobl fydd yn dod fel na fyddwch chi'n prynu gormod o fwyd.


  3. O brynu ffrwythau a llysiau nad ydyn nhw mewn pecynnau, gallwch chi ddewis y cynnyrch gorau ac osgoi'r angen i gael gwared ar becynnau.


  4. Mae'n well prynu planc barbiciw go iawn yn hytrach na defnyddio llawer o'r rhai un tro.  Byddwch chi'n arbed arian yn y pen draw ac yn osgoi creu sbwriel nad oes modd ei ailgylchu.  Os ydych chi am goginio ar y traeth, prynwch declyn bach y gallwch chi ei ddefnyddio eto i arbed arian a gwastraff fel ei gilydd.


  5. Gallwch chi arbed arian trwy osgoi salad parod!  Byddai'n well paratoi'ch salad eich hun a'i roi mewn blwch i'w gadw'n ffres.  Bydd blas eich salad eich hun yn well, hefyd!


  6. Yn hytrach na gwario llawer o arian ar gyllyll/ffyrc plastig a phlatiau papur, defnyddiwch y rhai arferol.  Os nad oes digon, gofynnwch i'ch ffrindiau ddod â rhai ychwanegol.


  7. Dylai fod bin ailgylchu poteli a chaniau wrth y blwch oer mewn barbiciw neu bicnic fel y gallwch chi ailgylchu'r rhai gwag pan gewch chi'ch diod nesaf.  Mae modd gadael poteli a chaniau ar ymyl y palmant i'w casglu wedyn neu fynd â nhw i safle amwynderau dinesig.  Peidiwch â'u dodi nhw yn y bin sbwriel achos y byddan nhw'n mynd i'r domen i'w claddu.

  8. Mae'n bosibl rhewi roliau bara sydd ar ôl, a chadw salad a phasta yn yr oergell am sbel.  Mae cig barbiciw yn wych mewn brechdan drannoeth ar yr amod eich bod yn ei gadw yn yr oergell dros nos.

  9. Yn well fyth, gallwch chi arbed arian trwy roi'r picnic i gyd mewn llestri plastig a chario diodydd mewn cwpanau plastig fel na fydd gwastraff o gwbl.

  10. Pan fo syched arnoch chi, dylech chi lenwi'ch potel o'r tap yn hytrach na phrynu potelaid o ddŵr bob tro.

summer_picnic_with_resuable_containers[bordered]
Hwyl a sbri dros yr haf – Cynllun 'Craff am Wastraff'