Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Cewynnau go iawn

O ddewis cewynnau go iawn, bydd modd arbed gwastraff.

Ydych chi'n gwybod?

  • Bydd angen cewyn glân ar eich babi 2,000 o weithiau mewn blwyddyn…
  • Bydd eich babi'n defnyddio tua 5,000 o gewynnau tafladwy cyn rhoi'r gorau iddyn nhw!
  • Gallwch chi arbed £500 trwy ddewis cewynnau i'w hailddefnyddio ar gyfer eich babi.

Mae mwy a mwy o rieni'n gwrthod cewynnau tafladwy am eu bod yn gwybod bod cewyn brethyn yn ddewis amgen naturiol, hawdd ei ddefnyddio a chost-effeithiol.

Dyma'r gwirAmrywiaeth o Gewynnau Go Iawn

  • Rydyn ni'n taflu 200 miliwn o gewynnau yng Nghymru bob blwyddyn – bron 500 bob munud!
  • Dim ond ar ôl cannoedd o flynyddoedd y bydd cewyn tafladwy yn pydru mewn tomen.
  • Gallai teulu a chanddo un babi gwtogi ar ei sbwriel o hanner trwy ddewis cewynnau brethyn.


 


Cystadleuaeth Calendr Cewynnau Go Iawn

Baban mewn cewyn go iawnMae’r Ymgyrch Cewynnau Go Iawn (cynllun ‘Craff am Wastraff’ a Cymru Gynhaliol) wedi lansio cystadleuaeth Calendr Cewynnau Go Iawn, rydym yn cynhyrchu calendr o fabanod mewn cewynnau go iawn i helpu i ledaenu’r neges, rydym eisoes wedi dechrau chwilio am fabanod i serennu yn y calendr. Os ydych chi’n meddwl y gall eich baban fod yn un o’r sêr ifanc hyn, anfonwch lun diweddar o’ch baban mewn cewyn go iawn gydag enw a manylion cyswllt i:
Cynllun ‘Craff am Wastraff’
Golley Slater
Wharton Street
Heol y Cawl
Caerdydd
CF10 1GS

Dyddiad cau: 27 Mehefin 2008




Mwy o wybodaeth ynglyn a cewynnau go iawn ar y dudalen nesaf