Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Geiriau o gyngor

Mae sawl ffordd o gwtogi ar faint rydyn ni'n ei daflu.  P'un ai'n bod ni'n ailgylchu, yn rhoi diben newydd i hen bethau neu'n ceisio arbed gwastraff, gallwn ni i gyd wneud ein cartrefi'n lanach!

Dyma rai syniadau syml ynghylch sut mae arbed gwastraff gartref:

  • Wrth siopa, dewis nwyddau y gallwch chi eu hail-lenwi (e.e. cyflyrwyr brethyn, chwistrelli diarogli).
  • Cadw bwyd mewn llestri yn lle defnyddio clingfilm a phapur arian.
  • Prynu llaeth mewn poteli i'w dychwelyd yn lle'r rhai plastig.
  • Prynu batrïau y gallwch chi eu hailwefru.
  • Dewis cewynnau a hancesi go iawn yn lle'r rhai tafladwy.  Cewch chi ragor o wybodaeth am gewynnau go iawn drwy ffonio Gwifren Gyngor Cewynnau Go Iawn Cymru0845 456 2477.
  • Mynd â dillad a phethau eraill o'r cartref nad oes eu heisiau arnoch chi i siopau elusen neu ffeiriau sborion.
  • Golchi poteli a jariau cyn eu rhoi i'w hailgylchu neu, yn well fyth, eu defnyddio nhw eto.
  • Os nad oes gardd gyda chi i ailgylchu sbwriel o'r gegin, cael gwybod a oes cynllun cymunedol y gallwch chi gymryd rhan ynddo. 

Oes gwir angen y peth arnoch chi?
    
Dylech chi ofyn y cwestiwn yma bob tro wrth siopa.  Allwch chi ailddefnyddio neu drwsio'r hyn sydd gyda chi neu oes nwyddau eildro ar gael?   O brynu nwyddau eildro, byddwch chi'n creu galw am y pethau wedi'u casglu o'r mannau ailgylchu a bydd llai o sbwriel yn mynd i'r domen.