Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Ailddefnyddio yn y cartref
Mae sawl ffordd y gall pobl ailddefnyddio eitemau er mwyn ymestyn eu hoes ac osgoi prynu eitemau newydd. Dyma rai awgrymiadau syml ynglŷn ag ailddefnyddio pethau o amgylch y tŷ:
- Dewiswch gynhyrchion y gellir eu defnyddio dro ar ôl tro – cewynnau go iawn, raseli amldro, ysgrifbinnau, cadachau hel llwch y gellir eu golchi. Bydd ganddynt oes hirach ac yn aml iawn byddwch yn arbed arian hefyd.
- Defnyddiwch fatris ailwefradwy a gwefrydd batris. Gellir defnyddio’r batris hyn dro ar ôl tro, a gellir eu gosod mewn teganau, fflachlampau, offer clywedol a nifer o bethau eraill yn y cartref.
- Gellir golchi jariau jam a chynhwysyddion bwyd a’u defnyddio i storio pethau o gwmpas y tŷ ac yn y garej. Gellir eu defnyddio hefyd yn y sied a’r tŷ gwydr fel potiau planhigion neu i storio hadau. Hefyd mae jariau jam yn ddefnyddiol mewn dosbarthiadau celf yn yr ysgol lle gellir eu defnyddio i lanhau brwshys paent.
- Ailddefnyddiwch y bagiau siopa a oedd gennych y tro diwethaf yr aethoch i siopa. Cadwch nhw mewn lle cyfleus fel eich bod yn cofio mynd â nhw gyda chi y tro nesaf yr ewch i siopa.
- Os oes gennych ormod o fagiau siopa plastig, defnyddiwch nhw i leinio biniau. Maent yn ddelfrydol ar gyfer hyn a byddwch yn arbed arian.
- Gellir ailddefnyddio amlenni a phecynnau ar gyfer postio pethau (bagiau jiffy) trwy roi label gludiog dros yr hen gyfeiriad.
- Defnyddiwch focs bwyd yn hytrach na lapio bwyd mewn papur, ffoil neu haenen blastig. Gallwch ei ailddefnyddio (fydd dim rhaid i chi brynu deunydd lapio) a bydd hefyd yn gwarchod eich cinio rhag cael ei wasgu.
- Celf plant – mae papur a cherdyn gyda phrint ar un ochr yn unig yn ddelfrydol i blant dynnu lluniau arno; mae deunydd pacio yn gwneud siapiau diddorol ar gyfer gwneud modelau allan o wastraff. Neu defnyddiwch hen gardiau pen-blwydd a chardiau Nadolig fel labeli ar gyfer anrhegion.
- Ailddefnyddiwch hen bapurau newydd, er enghraifft fel gwâl ar gyfer anifeiliaid.
- Lle bo’n bosibl, dylech drwsio pethau yn y cartref megis esgidiau, dillad, eitemau trydanol a dodrefn.
- Ewch ag unrhyw ddillad neu eitemau yn y cartref nad ydych eu heisiau i siopau elusen neu ffair sborion;


