Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Ailddefnyddio

Bookmark and Share

Beth yw ystyr ‘ailddefnyddio’?

Yn syml, mae ailddefnyddio yn golygu defnyddio gwrthrych neu ddeunydd dro ar ôl tro, naill ai at ei bwrpas gwreiddiol neu at ddiben tebyg.

Nid ailgylchu yw ailddefnyddio oherwydd mae ailgylchu yn newid ffurf ffisegol gwrthrych neu ddeunydd. Mae ailddefnyddio yn golygu nad yw gwrthrychau a deunyddiau yn mynd yn wastraff.

Mae rhai eitemau wedi cael eu dylunio’n benodol ar gyfer cael eu hailddefnyddio er enghraifft batris ailwefradwy neu ‘gewynnau go iawn’.

Hyd yn oed os oes gennych eitemau nad ydych eu heisiau yn eich cartref mae’n debygol iawn y gall rhywun arall eu hailddefnyddio ar ôl i chi orffen â nhw - er enghraifft dillad, llyfrau a dodrefn.

Mae ailddefnyddio eitemau yn beth da i’w wneud oherwydd:

  • mae’n ymestyn oes deunyddiau gan arbed adnoddau naturiol y Ddaear
  • mae’n arbed ynni sy’n helpu i leihau’r risg o newid yn yr hinsawdd  
  • nid ydych yn anfon cymaint o wastraff i safleoedd tirlenwi
  • gallwch arbed arian

 Awgrymiadau Buddiol

Dyma rai syniadau syml ynglŷn â sut y gallwch ailddefnyddio eitemau fel rhan o’ch bywyd bob dydd: