Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Ailddefnyddio
Ailddefnyddio yn yr ysgol: Mae'n gelfyddyd gain!
- Gallwch chi droi darnau o gardfwrdd, papur lliw a hen gylchgronau'n rhywbeth godidog trwy eu defnyddio eto mewn gwersi celf a dylunio.
Ailddefnyddio wrth siopa
Bydd llawer o fagiau gyda chi ar ôl dod yn ôl o'r siopau, ac mae'r holl blastig yn cronni'n gyflym.
Bob wythnos, mae pawb yn defnyddio 9 bag plastig ar gyfartaledd a dim ond ar ôl 500 mlynedd y byddan nhw'n pydru mewn tomen.
Dyma rai awgrymiadau i ddefnyddio llai o fagiau:
- Mynd â bagiau cynfas gyda chi – bagiau cadarn a ffasiynol i'w defnyddio dro ar ôl
tro. Mae'r rhan fwyaf o siopau mawr yn cynnig 'bagiau am oes' bellach yn ddewis amgen na bagiau plastig. Gorau oll, fe gewch chi fag newydd yn rhad ac am ddim i gymryd lle'r hen un ar ôl iddo dreulio. - Gallwch chi ddefnyddio bagiau plastig sawl gwaith cyn eu taflu.
- Dylech chi eu cadw yn eich car fel na fyddwch chi'n anghofio mynd â nhw i'r siopau.
- Mae mannau ailgylchu bagiau plastig yn llawer o'r siopau mawr bellach.
Yn yr ardd: Garddio gwyrdd
- Mae'n bosibl defnyddio pethau'r cartref yn yr ardd – mae blychau wyau a photiau iogwrt yn wych ar gyfer plannu hadau ac mae poteli plastig yn berffaith i'w magu nhw.

