Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Ailddefnyddio

Sut gallwch chi helpu?

Mae'n hawdd cymryd rhan, a dyma rhai awgrymiadau i gychwyn:

  • Mynd â'ch hen ddillad i fan ailgylchu dillad.  Cysylltu â swyddog materion gwastraff eich cyngor lleol i gael gwybod sut gallwch chi ailgylchu dillad.  Os nad oes mannau ailgylchu yn eich bro, efallai fod ffyrdd eraill o gasglu dillad yno.
  • Rhoi hen ddillad, esgidiau, bagiau llaw ac ati i siopau elusen neu ffeiriau sborion yn eich bro.  Dewch chi o hyd i'r siopau elusen lleol trwy gyrchu gwefan Cymdeithas y Siopau Elusen – http://www.charityshops.org.uk/
  • Clymu'r esgidiau at ei gilydd – esgidiau ar eu pennau eu hunain yw rhan o'r 6% o decstilau sy'n wastraff ymhlith masnachwyr.
  • Prynu dillad ail-law – mae rhai pethau gwych yn y siopau elusen a dewch chi o hyd i rai dillad anarferol yn aml.  O brynu dillad o siop elusen, byddwch chi'n cyfrannu at achos da yn ogystal ag ychwanegu at eich casgliad.
  • Prynu pethau rydych chi'n debygol o'u gwisgo dros gyfnod hir.  Does dim rheswm pam na allwch chi fod yn ffasiynol ac yn wyrdd fel ei gilydd, os dewiswch chi bethau'n ofalus.
  • Prynu clytiau glanhau brethyn yn lle rhai papur am y byddan nhw'n para'n hirach.

Ailddefnyddio yn y gwaith:

Defnyddio amlenni etoReuse Envelopes

  • Gallwch chi ddefnyddio hen amlenni eto trwy ddodi label ar yr hen gyfeiriad ac ysgrifennu un newydd arno.
     
  • Mae modd defnyddio hen amlenni ar gyfer post mewnol, hefyd.