Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Ailddefnyddio
Nid eilradd yw pethau ail-law
Mae enwogion y byd wedi sylweddoli pa mor dda y gall dillad ail-law fod ac maen nhw'n taenu'r efengyl am hen ddillad heb eu hail.
Gallwch chi gydio yn y ffasiwn, hefyd, trwy chwilio'ch cwpwrdd a didoli'r pethau na fyddwch chi'n eu gwisgo (a bod yn onest) byth eto. Efallai fod gyda chi ffrog fach sy'n rhy fach o dipyn neu grys a brynoch chi'n fyrbwyll ond bydd rhywun, rhywle, yn ei hoffi bid siwr.
Gallwch chi roi dillad ac esgidiau mewn cyflwr da i siopau elusen lleol, mynd â nhw i ffair sborion neu alw heibio i'r man ailgylchu agosaf. Dodwch y dillad sydd wedi hen dreulio yn y man ailgylchu, hefyd, am fod modd eu defnyddio eto i wneud pethau newydd sbon.

Yn y DG, rydyn ni’n taflu miliwn o dunelli o decstilau bob blwyddyn. Dillad yw 500 o’r tunelli hynny, a gallen ni ailgylchu o leiaf 50% ohonyn nhw. O fynd â hen ddillad i siopau elusen, byddwch chi'n cyfrannu at achosion da, ond gallech chi fynd â nhw i fannau ailgylchu i'w didoli, hefyd.
Byddwn ni'n anfon y rhai mae modd eu gwisgo eto i'r siopau elusen ac yn defnyddio'r lleill i ddibenion llenwi/glanhau neu'n gweu'r deunydd eto i wneud pethau eraill.

