Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Ailddefnyddio
Cyn ailgylchu rhywbeth, dylen ni ystyried a oes modd ei ailddefnyddio.
Mae'n bosibl ailddefnyddio llawer o bethau megis bagiau, dillad, jariau gwydr, llyfrau, cewynnau brethyn a dodrefn.
Y cwbl mae angen ei wneud yw eu hysbysebu’n rhad ac am ddim ar dudalen cangen leol Freecycle a bod yn barod i’w rhoi i bobl heb godi tâl. Yn ôl pob tebyg, fe ddaw rhywun i’ch cartref i’w nôl. Cliciwch ar logo Freecycle i fanteisio ar y gwasanaeth. Mae Freecycle yn ffordd wych o ddod o hyd i bethau mae eu heisiau arnoch chi, hefyd.
Ailddefnyddio yn y gymuned
Mae'r ffaith bod mwy a mwy o wefannau ar gyfer cyfnewid pethau dieisiau yn dangos bod pobl yn cydio yn y syniad o ailddefnyddio.
Mae llawer o fudiadau wedi'u sefydlu dros y blynyddoedd diwethaf i dderbyn pethau mwy o'r cartref megis dodrefn, eu hailwampio a'u hanfon i gartrefi newydd yn y gymuned.
Ailddefnyddio yn y cartref
Mae syniadau di-rif… Gallwch chi olchi jariau a'u defnyddio i gadw pethau megis botymau a hoelion troi, er enghraifft:
- Mae'n bosibl defnyddio blychau prydau parod yn y rhewgell, yn aml.
- Gallwch chi roi taclau trydan megis sugnwyr llwch neu stereos i arbenigwyr i'w trwsio yn lle prynu rhai newydd, a chadw pethau o'r fath yn hirach yn lle eu taflu pan ddaw mathau newydd sbon ar gael.
- Dylech chi brynu pethau i'w hailddefnyddio megis cewynnau a hancesi yn lle rhai tafladwy.


