Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Ailddefnyddio yn y gymuned

Mae sawl ffordd y gallwch ailddefnyddio’r pethau nad ydych eu heisiau, a’u hachub rhag mynd i’r bin. Rhowch fywyd newydd i’r pethau hyn trwy eu rhoi i rywun arall, eu cyfnewid neu eu gwerthu.

Yn lle prynu pethau newydd, gallwch gael bargen trwy brynu rhywbeth i’w ailddefnyddio.

Gweler isod restr o bethau syml y gallwch eu gwneud i ailddefnyddio er lles eich cymuned leol.

"Mae gwastraff un yn drysor i arall"

  • Rhowch fywyd newydd i’ch hen eitemau trwy eu gwerthu neu eu rhoi i rywun arall. Mae nifer o wefannau cyfnewid lle gallwch roi neu werthu y pethau nad ydych eu heisiau. Sef y rhwydwaith Freecycle Freegle, Gumtree, Don’t dump that ac ebay. Hefyd mae nifer o wefannau hysbysebion am ddim a phapurau newydd lleol lle gallwch gyfnewid eitemau nad ydych eu heisiau.  
  • Pam na wnewch chi geisio ennill arian trwy wneud stondin mewn sêl cist car lleol neu ffair sborion a gwerthu eich eitemau diangen?  Mae’r digwyddiadau hyn yn ffyrdd da o gael hyd i bethau yr ydych chi eu heisiau hefyd.
  • Byddwch yn Samariad da – ewch ag unrhyw eitemau diangen yn y cartref i siop elusen.  
  • Gallwch wneud defnydd da o’ch hen ddodrefn trwy eu rhoi i brosiectau cymunedol ail-gartrefu, elusennau ar gyfer y digartref ac unrhyw ddeiliaid tai sydd eisiau prynu dodrefn ail law yn lle rhai newydd. Felly cyn i chi daflu’r hen wardrob ’na, cysylltwch ag elusen ailddefnyddio dodrefn leol. Er mwyn cael hyd i’r un agosaf atoch ewch i’r adran ‘Yn eich ardal chi’ ar ein gwefan.
  • Fel y mae sefydliadau ac elusennau cymunedol yn gallu ailddefnyddio dodrefn, gellir ailddefnyddio rhai eitemau trydanol hefyd, er enghraifft peiriannau golchi dillad, systemau cerddoriaeth a setiau teledu. Gall staff hyfforddedig roi profion diogelwch iddynt, eu hadnewyddu a’u rhoi i aelodau o’r gymuned neu eu gwerthu. Ewch i’r adran ‘Yn eich ardal chi’ ar ein gwefan i weld a oes sefydliad ailddefnyddio yn eich ardal chi.
  • Gallwch gyfnewid eich eitemau dianen - gallwch gynnal parti cyfnewid gyda’ch ffrindiau a’ch teulu a chyfnewid a rhannu eich dillad babi, esgidiau, dillad ymarfer corff, ffrogiau a dillad ysgol…. mae’r rhestr yn ddi-ben-draw!

Nid yw steil byth yn mynd allan o ffasiwn

  • Edrychwch yn eich wardrob a rhowch unrhyw ddillad nad ydych yn mynd i’w gwisgo byth eto i rywun arall. Gallwch roi dillad ac esgidiau o ansawdd da i’ch siop elusen leol, ewch â nhw i ffair sborion neu i’r banc ailgylchu dillad cyfagos. 
  • Erbyn hyn mae nifer o safleoedd bwtic penodol ar gyfer ailwerthu dillad diangen gan ddylunwyr er enghraifft http://www.whatsmineisyours.com/ a http://www.bigwardrobe.com/
  • Prynwch ddillad ail law – gallwch gael hyd i ambell i drysor yn eich siop elusen leol a rhai pethau hanesyddol anarferol. Cofiwch, nid dim ond eich wardrob fydd yn elwa wrth brynu dillad o siop elusen – byddwch hefyd yn helpu achos da.   
  • Gellir defnyddio dillad na ellir mo’u gwisgo eto at ddibenion eraill, er enghraifft llenwi clustogau neu gadachau, neu gellir adfer y ffibrau a’u hail-nyddu. 

Bookmark and Share