Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
- Deunydd Pacio
Deunydd Pacio
Mae deunydd pacio yn bwysig o ran amddiffyn a chadw’r cynhyrchion yr ydym yn eu prynu ac weithiau ni allwn wneud hebddo.
Mae gwerthwyr a gweithgynhyrchwyr yn gweithio’n galed i leihau’r maint o wastraff pecynnu yr ydym yn ei gynhyrchu ac i leihau ei effaith ar yr amgylchedd.
Pam yr ydym ni angen deunydd pacio?
Mae deunydd pacio yn rhan bwysig o’n bywyd pob dydd ac mae llawer o fanteision iddo, gan gynnwys ehangu dewis a chyfleustod er mwyn sicrhau bod y cynnyrch yn cyrraedd yn ddiogel. Heb rywfaint o ddeunydd pacio amddiffynnol mae’n debyg y byddai cynhyrchion yn cael eu difrodi ac efallai y byddai’n rhaid eu taflu allan.
Deunydd pacio yw’r enw a roddir ar y cynhwysyddion sy’n dal cynhyrchion pan gânt eu prynu, eu gwerthu a’u cludo. Maent yn amrywio o focsys cardbord a phaledi pren i boteli plastig a chaniau diodydd alwminiwm.
Ond gallwch wneud sawl peth er mwyn cynhyrchu llai o ddeunydd pacio, ei ailddefnyddio a’i ailgylchu.
Sut y gallaf gynhyrchu llai o Ddeunydd Pacio?
- Dewiswch gynhyrchion sydd â llai o ddeunydd pacio Chwiliwch am gynhyrchion sy’n defnyddio llai o becynnu a dylech osgoi cynhyrchion sydd â gormod o becynnu yn eich barn chi.
- Prynwch ddwysgynhyrchion Mae dwysgynhyrchion yn cynnwys llai o ddŵr ac felly gall y deunydd pacio fod dros 50% yn llai. Mae cyflyrydd ffabrig, poteli diod ffrwythau, glanedydd a sebon hylifol i gyd yn enghreifftiau o ddwysgynhyrchion neu gynhyrchion y gellir ail-lenwi eu bocsys a’u poteli. Dilynwch gyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr ynglŷn â chynhyrchion glanhau i sicrhau eich bod yn defnyddio’r maint cywir o’r cynhyrchion hyn.
Rhowch wybod trwy adborth cwsmeriaid os ydych yn teimlo bod gormod o ddeunydd pacio wedi cael ei roi am gynnyrch. Cysylltwch â’r gwerthwr, y brand neu’r cyflenwr os ydych yn teimlo bod gormod o ddeunydd pacio wedi cael ei roi am y cynnyrch. Gellir gwneud hyn trwy fynd yn ôl i’r man lle prynwyd y cynnyrch, neu drwy ysgrifennu atynt. Edrychwch ar y deunydd pacio ac efallai bod yno rif cyswllt neu gyfeiriad y gallwch ei ddefnyddio i gysylltu.
Os ydych yn teimlo nad yw eich cwyn wedi cael digon o sylw neu os nad ydych wedi cael eich bodloni gan yr ymateb a gawsoch, gallwch roi gwybod i Swyddog Safonau Masnach eich awdurdod lleol. Er mwyn cael hyd i’ch swyddfa leol ewch i’r wefan Safonau Masnach.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth a chyngor cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr Cymru ar 08454 040506
Ewch i dudlalen 2


