Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
- Deunydd Pacio
Sut y gallaf Ailgylchu deunydd pacio?
A ydych yn ailgylchu cymaint ag y gellir o’ch deunydd pacio? Trowch eich deunydd pacio yn adnodd trwy ailgylchu caniau diodydd, poteli a jariau gwydr, bocsys cardbord a photeli plastig.
Mae ailgylchu’n golygu ein bod yn anfon llai o wastraff i safleoedd tirlenwi, yn adennill adnoddau gwerthfawr i wneud cynhyrchion newydd. Gan hynny mae llai o alw ar adnoddau naturiol.
Labeli ailgylchu ar becynnau
Mae arwerthwyr blaengar wedi ymuno gyda’i gilydd i gyflwyno’r system labelu lle gallwch weld, ar yr olwg gyntaf, pa ddeunydd pacio y gallwch eu hailgylchu trwy edrych ar y symbolau sydd wedi eu hargraffu ar y cynhyrchion. Bydd nifer o frandiau ar gyfer y cartref yn defnyddio’r system labelu newydd hyn yn eu nwyddau hefyd.
Nod y cynllun yw rhoi gwybodaeth gliriach i’r cyhoedd, yn egluro beth y gellir ei ailgylchu a pheidio. Bydd y cynhyrchion fydd yn cymryd rhan yn y cynllun yn arddangos un neu fwy o’r tri symbol safonol yn nodi pa ran o’r deunydd pacio y gellir ei ailgylchu. Mae’r symbolau yn dweud y gellir ‘ailgylchu’n eang’, ‘ni ellir ei ailgylchu ar hyn o bryd’ neu ni chaiff ei ailgylchu heblaw mewn rhai ardaloedd..
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ewch i’r wefan On-Pack Recycling Label Scheme (safle Saesneg yn unig)
Beth arall y gallaf ei wneud?
- Prynu pethau sydd wedi eu hailgylchu Cofiwch eich bod yn helpu i greu marchnad ar gyfer deunydd ailgylchu trwy brynu cynhyrchion sydd wedi eu pecynnu gyda deunydd a ailgylchwyd.
- Prynu Cynhyrchion sydd â deunydd pacio y gellir ei ailgylchu Prynwch eitemau gyda deunydd pacio y gellir ei ailgylchu a chofiwch eu cynnwys yn y cynllun casglu gwastraff o ddrws i ddrws neu mynd â nhw i’r ganolfan ailgylchu lleol. Er mwyn cael gwybod beth y gallwch ei ailgylchu ac yn lle cliciwch ar yr adran Yn Eich Ardal Chi yn ein gwefan.


