Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
- Deunydd Pacio
Sut y gallaf ailddefnyddio deunydd pacio?Mae ailddefnyddio deunydd pacio yn arbed adnoddau naturiol ac yn cynhyrchu llai o wastraff. Darllenwch yr awgrymiadau isod i weld sut y gallwch ddechrau ailddefnyddio eich deunydd pacio heddiw.
- Defnyddiwch gynhwysyddion y gellir eu hail-lenwi Gall ail-lenwi olygu eich bod yn defnyddio 75% yn llai o ddeunydd pacio a gallwch arbed arian yn sgil hynny hefyd. Mae llawer o lanedyddion golchi a glanhau ar gyfer y tŷ ar gael mewn pecynnau y gellir eu hail-lenwi.
- Ailddefnyddio pecynnau Ailddefnyddiwch gynwysyddion bwyd ar gyfer storio bwyd a dal pecyn bwyd. Mae tybiau margarîn neu hufen ia yn wych ar gyfer rhewi bwyd. Gellir defnyddio tuniau metel siocled neu fisgedi ar gyfer storio bwyd. Gellir defnyddio bocsys cardbord i storio neu ar gyfer parseli.
- Defnyddiwch gynlluniau dychwelyd Prynwch lefrith oddi wrth gyflenwr lleol mewn poteli gwydr y gellir eu dychwelyd, yn lle poteli plastig;
Ewch i dudlalen 3


