Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Siopa’n Ddoeth

Mae arbed gwastraff yn dechrau trwy ailfeddwl am yr hyn yr ydych yn ei brynu

Nid yw cynhyrchu llai o wastraff yn golygu gwneud aberth – hollol i’r gwrthwyneb.

Gall dewis ffordd o fyw gyda llai o wastraff fod yn llai trafferthus. Gallwch dreulio llai o amser yn siopa, cael mwy o arian yn eich poced a byw bywyd ychydig yn symlach. O ran yr amgylchedd, mae’n golygu bod llai o ynni a deunydd crai yn cael eu defnyddio i wneud cynhyrchion newydd, sydd felly’n cynhyrchu llai o allyriadau carbon ac yn golygu nad yw deunyddiau gwerthfawr yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Yr ydym yn treulio oriau bob mis yn siopa bwyd, dillad a nwyddau ar gyfer y tŷ.

Ond a ydych chi’n gwybod faint o ddifrod y mae eich siopa yn ei wneud i’r amgylchedd? Efallai bod llawer o’r eitemau ar eich rhestr siopa arferol wedi teithio ar draws y byd i gyrraedd eich troli.

Mae nifer o bethau syml y gallwch eu gwneud er mwyn siopa’n ddoethach. Yn ogystal â bod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd gallwch hefyd arbed arian.

Ewch i dudalen 2

Bookmark and Share