Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Siopa’n Ddoeth
Siopwch yn ddoeth gan gynhyrchu llai o wastraff!
Trwy ddefnyddio ein pŵer prynu a dewis cynhyrchion sydd heb eu gor-becynny byddwn yn cael llai o effaith ar yr amgylchedd, yn rhoi llai o bethau yn ein biniau ac yn arbed arian hefyd. Dyma rai camau i’ch helpu i gynhyrchu llai o sbwriel:
- Cadwch at eich rhestr siopa! Peidiwch â chael eich denu gan y cynigion Prynu Un a Chael Un am Ddim – oni bai eu bod ar y rhestr. Dylech eu gadael ar y silff ac osgoi’r demtasiwn i’w prynu. Byddwch yn gwastraffu llai ac yn gwario llai!
- Dylech osgoi prynu pethau sydd â gormod o ddeunydd pacio, er enghraifft prydau parod, bananas wedi eu lapio mewn plastig, bisgedi wedi eu lapio bob yn un ac yn y blaen. Mae pecynnu yn costio arian a gall gynyddu pris nwyddau. Lle bynnag y bo modd prynwch gynhyrchion sydd wedi eu pecynnu mewn deunydd y gellir ei ailgylchu, er enghraifft cardbord;
- Dewiswch ffrwythau a llysiau rhydd sydd heb eu pecynnu’n barod, a dylech osgoi cynnyrch sydd â haenau o ddeunydd pacio;
- Prynwch boteli y gellir eu hail-lenwi ar gyfer glanedyddion golchi, coffi a sebon dwylo;
- Prynwch laeth oggi wrth gyflenwr lleol mewn poteli gwydr y gellir eu dychwelyd, yn hytrach na photeli plastig;
- Dylech osgoi ddefnyddio haenen lynu a ffoil – yn lle hynny dylech brynu cynhwysyddion storio;
- Rhowch y gorau i ddŵr potel ac yfwch ddŵr tap. Prynwch botel y gellir ei hail-lenwi, byddwch yn arbed arian a bydd llai o ddeunydd pacio yn cael ei gynhyrchu;
- Dylech osgoi mathau tafladwy o gynhyrchion, er enghraifft, batris, llieiniau glanhau, raseli, hancesi papur ac yn y blaen. Yn hytrach prynwch nwyddau sy’n para fel raseli amldro a hancesi cotwm er mwyn cynhyrchu llai o sbwriel ac arbed arian;
- Dewiswch gynhyrchion y gellir eu hail-lenwi er enghraifft cyflyrydd ffabrig, ffresnydd aer, cetris argraffydd. Fel hyn byddwch yn cynhyrchu llai o sbwriel; gan y gallwch ailddefnyddio’r cynhwysydd gwreiddiol;
- Dewiswch gewynnau y gellir eu golchi yn lle cewynnau parod, mae hyn yn cynhyrchu lot llai o wastraff a byddwch yn arbed arian.
- Dewiswch eitemau o ansawdd uchel sy’n debygol o bara’n hirach a’u cadw mewn cyflwr da fel y byddant yn para cyn hired â phosibl.
- Buddsoddwch mewn batris y gellir eu hailwefru i gynhyrchu llai o sbwriel ac arbed arian;
- Dewiswch gynhyrchion sy’n cynnwys llai o ddeunydd ac/neu lai o sylweddau peryglus. Er enghraifft dewiswch baent sy’n seiliedig ar ddŵr yn hytrach na phaent sy’n seiliedig ar olew neu prynwch gynhyrchion Eco-lanhau ‘naturiol’.
- Gall prynu swmp o eitemau ar y tro, megis bocsys maint teuluol o bowdwr golchi dillad, reis, pasta, coffi ac yn y blaen arbed arian a golygu llai o becynnu yn y pen draw.
- Bydd prynu cynhyrchion sydd wedi eu hailgylchu, neu y gellir eu hailgylchu, yn annog gwneuthurwyr i ofyn am fwy o ddeunydd wedi ei ailgylchu a llai o ddeunydd newydd, gan felly gynhyrchu llai o wastraff.
- Wrth brynu anrhegion, yn hytrach na phrynu nwyddau disglair gallwch brynu ‘anrhegion profiad’ neu ‘anrhegion amgen’ (er enghraifft tocynnau sinema neu dalebau marchogaeth) – anrhegion sy’n fwy na dim ond papur lapio sgleiniog.
- A ydych ei wir angen? Gofynnwch y cwestiwn hwn i chi’ch hun y tro nesaf y byddwch yn siopa. A allwch chi ailddefnyddio neu drwsio beth sydd gennych yn barod, a allwch chi ei brynu wedi ei ailgylchu?


