Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Siopa’n Ddoeth

Yn y siopau:

PEIDIWCH â chymryd bagiau siopa plastig untro wrth y til yn yr archfarchnad – yn hytrach defnyddiwch ‘fagiau am oes’ y gellwch eu defnyddio drosodd a throsodd i gario eich neges y tro nesaf yr ewch i’r archfarchnad.

Storiwch eich bagiau amldro mewn lle cyfleus, yn eich car er enghraifft, fel na fyddwch yn eu hanghofio y tro nesaf yr ewch i siopa.

A oeddech chi’n gwybod?

  • Pan fydd bagiau siopa yn diweddu mewn safle tirlenwi gallant gymryd oddeutu 500 mlynedd i bydru, ac yr ydym yn defnyddio 500 miliwn ohonynt bob wythnos!
  • Cynhyrchir cymaint â 10 biliwn o fagiau siopa bob blwyddyn;
  • Os byddem yn eu gosod ben wrth ben, byddent yn ymestyn i’r lleuad ac yn ôl bum gwaith;
  • Bydd 80% o siopwyr y Deyrnas Unedig yn rhoi pob dim mewn bagiau siopa rhad ac am ddim yn yr archfarchnad;
  • Bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig mae 100,000 tunnell o fagiau plastig yn cael eu taflu – yr un pwysau â 70,000 o geir (Ffynhonnell: Recycle now)

Ewch i dudalen 3