Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Byw'n Ddoeth

Mae llawer o newidiadau syml y gallwch eu gwneud o gwmpas y tŷ er mwyn cynhyrchu llai o wastraff.

  • Peidiwch â defnyddio haenen lynu a ffoil ond yn hytrach storiwch fwyd mewn cynhwysyddion y gellir eu cau’n dynn, er enghraifft Tupperware;
  • Pam na wnewch chi logi’r eitemau rydych eu hangen? - pam llenwi’r tŷ gydag offer nad ydych yn ei ddefnyddio’n aml, er enghraifft chwistrell ddŵr gwasgedd uchel, stripiwr papur wal, glanhawr carpedi? Chwiliwch am gwmnïau llogi yn y llyfr ffôn neu ar y we - byddwch yn synnu gweld yr amrywiaeth o bethau y gellwch eu llogi;
  • Prynu’n ail law – yn lle prynu pethau newydd sbon pam na wnewch chi chwilio am fargen trwy brynu eitemau ail law? Mae digon o wefannau cyfnewid gwastraff fel ebay, gumtree, freecycle a freegle yn ogystal a phapurau hysbysebu am ddim lle gallwch brynu eitemau fel dodrefn, llyfrau, offer ac yn y blaen am hanner pris nwyddau newydd sbon;
  • Gwerthu eitemau nad ydych eu heisiau - cyn i chi daflu’r hen gemau cyfrifiadur, cawell y bochdew neu’r ffrog sy’n rhy fach ers blynyddoedd pam na wnewch chi geiniog neu ddwy ohonynt? Efallai bydd eich pethau dieisiau chi yn berffaith ar gyfer rhywun arall, ceisiwch eu gwerthu ar wefan gyfnewid neu mewn sêl cist car lleol;
  • Gwneud eich cinio eich hun – yn lle prynu brechdan neu salad drud wedi ei becynnu’n barod i ginio pam na wnewch chi eich pecyn bwyd eich hun gartref.
    Defnyddiwch gynhwysyddion y gellir eu cau’n dynn fel tupperware i gadw eich bwyd yn ffres. Byddwch yn taflu llai o ddeunydd pacio ac yn arbed arian hefyd;
  • Benthyg - pam na wnewch chi ymuno â llyfrgell neu lyfrgell teganau fel y gallwch fenthyg yn lle prynu. Neu’n well byth pam na wnewch chi fenthyg neu gyfnewid pethau gyda’ch teulu a ffrindiau;
  • DVDs, gemau cyfrifiadur a CDs – llogwch y rhain yn hytrach na’u prynu’n newydd sbon, mae gwasanaethau gwych ar gael ar-lein a gall fod yn rhatach na’u llogi o siopau’r stryd fawr. Efallai bod stoc dda yn eich llyfrgell leol;
  • Trwsio – cyn i chi daflu pethau sydd wedi torri, meddyliwch yn gyntaf a ellir eu trwsio? Gall trwsio pethau sydd â nam neu sydd wedi torri, er enghraifft beic, dodrefn, cyfrifiaduron, offer trydanol, esgidiau a dillad fod yn dipyn llai costus na’u prynu’n newydd.  

Bookmark and Share