Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Cewynnau go iawn
Mae'n hen bryd inni newid!
Mae cewynnau brethyn yn:
- naturiol - does dim cemegion na mwydion papur ynddyn nhw;
- hawdd eu defnyddio - does dim angen pinnau cau mwyach;
- hawdd eu golchi - does dim angen eu trochi neu eu berwi - dim ond eu golchi ar 60°C (gallwch chi roi'r llenni mewnol papur ar y domen gompost neu yn y toiled);
- rhatach - gallech chi arbed hyd at £500 gyda'ch plentyn cyntaf (bydd modd defnyddio llawer o'r cewynnau eto ar gyfer eich plant eraill, fel y byddwch chi'n arbed rhagor fyth);
- hwyl - mae cewynnau brethyn o bob lliw a llun ar gael.
Mae'n haws nag erioed cydio mewn cewynnau go iawn!
Gan fod amrywiaeth helaeth o gewynnau ar gael, bydd yn hawdd dod o hyd i'r rhai sy'n gweddu i'ch babi a'ch poced.
Hoffech chi ragor o wybodaeth?
I gael rhagor o wybodaeth am gewynnau brethyn, ffoniwch: The Real Nappy Advice line - 0845 456 2477
neu gyrchu: www.realnappies-wales.org.uk


