Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Cewynnau Go Iawn

Wrth ddefnyddio Cewynnau Go Iawn rydym yn cynhyrchu llai o wastraff ac mae’n ein hannog i ailddefnyddio trwy eu golchi.

A oeddech chi’n gwybod?

  • Byddwch yn newid cewyn eich babi oddeutu 2,000 o weithiau mewn blwyddyn
  • Meddyliwch – bydd eich babi yn defnyddio tua 5,000 o gewynnau tafladwy hyd nes y bydd yn gallu defnyddio’r poti!
  • Gallwch arbed £500 trwy roi cewynnau y gellir eu hailddefnyddio i’ch babi.

Mae nifer cynyddol o rieni yn gwrthod defnyddio cewynnau tafladwy wrth iddynt sylweddoli bod cewynnau cotwm yn naturiol, yn hawdd eu defnyddio ac yn gost effeithiol o gymharu â chewynnau tafladwy – ac nid ydynt yn costio ffortiwn nac yn niweidio’r ddaear!   

Ffaith

  • Yng Nghymru bydd cymaint â  200 miliwn o gewynnau tafladwy yn cael eu taflu bob blwyddyn – mae hynny tua 500 bob munud!
  • Mae’n cymryd cannoedd o flynyddoedd i gewyn tafladwy fioddiraddio yn ein safleoedd tirlenwi sy’n prysur lenwi  
  • Gall teuluoedd gydag un baban gynhyrchu hanner cymaint o wastraff trwy ddewis cewynnau cotwm.

Mae’n amser newid!  

Mae cewynnau go iawn (cotwm) yn:

  • Naturiol – wedi eu gwneud yn bennaf o ffibrau naturiol heb unrhyw jeliau cemegol neu fwydon papur
  • Yn hawdd eu defnyddio – does dim eisiau defnyddio pinnau oherwydd defnyddir felcro neu poppers
  • Yn hawdd eu golchi – does dim eisiau eu mwydo na’u berwi – dim ond eu golchi ar dymheredd o 60°C. Gellir taflu leinwyr bioddiraddadwy ar eich tomen compostio gartref neu eu fflysio lawr y toiled
  • Yn rhatach – arbedwch hyd at £500 gyda’ch plentyn cyntaf. Gellir defnyddio llawer o gewynnau ar gyfer mwy nag un plentyn, sy’n golygu arbed hyd yn oed mwy o bres!
  • Yn hwyl - mae cewynnau go iawn ar gael mewn dewis eang o ddyluniadau a ffabrig gan gynnwys lluniau dinosoriaid a phatrymau enfys lliwgar.

Ni fu erioed o’r blaen mor hawdd newid i gewynnau go iawn!

Mae hefyd yn hawdd cael hyd i’r cewyn iawn sy’n addas i’ch babi a’ch cyllideb gan fod cymaint o ddewis o wahanol fathau ar gael.

Ydych chi eisiau gwybod mwy?

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â defnyddio cewynnau cotwm ac i gael cyngor un i un cysylltwch â: Llinell gymorth The Real Nappy Advice ar 0845 456 2477 

Neu ewch i: Ymgyrch Cewynnau Go Iawn 

 

Bookmark and Share