Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Ryseitiau pwmpen

Ffriterau Pwmpen Fenis

Yn gwneud 30

75g / 3oz Syltanaiaid

500g / 1 pwys cnawd pwmpen

4 llwy fwrdd siwgr mân

125g / 4 owns blawd codi

1 llwy de croen oren wedi’i ratio

2 ŵy wedi’u gwahanu

½ llwy de pupur Jamaica

Olew olewydd i ffrio’n fas

Sinamon mân i weini

  • Gorchuddiwch y syltanaiaid gyda dŵr poeth a’u gadael am ddeng munud i fwydo a chwyddo
  • Torrwch y bwmpen yn giwbiau a’u mudferwi am ychydig funudau hyd nes eu bod yn feddal. Draeniwch nhw a’u stwnsio
  • Draeniwch y syltanaiaid a’u sychu â lliain. Ychwanegwch at y ciwbiau pwmpen gyda 2 lwy fwrdd o siwgr, y blawd, y croen oren, melynwy a’r pupur Jamaica a’u cymysgu’n dda
  • Chwisgwch y ddau wynnwy a’u rhoi i mewn i’r cymysgedd pwmpen
  • Cynheswch yr olew a choginio llond llwy fwrdd o’r cymysgedd am tua phum munud hyd nes iddo grasu a throi’n lliw aur. Draeniwch ar bapur cegin a’i orchuddio â’r siwgr sy’n weddill a’r sinamon
  • Gweinwch tra’n gynnes

Allan o: Real Fast Vegetarian Food, Ursula Ferrigno


Cacen gaws Pwmpen

Ar gyfer 12

Ar gyfer y sylfaen:

2 gwpan bisgedi ‘ginger snap’ wedi’u malu’n fân

½ cwpan cnau pecan wedi’u malu’n fân

6 llwy fwrdd menyn

Ar gyfer y llenwad:

24oz caws hufennog

1 cwpan siwgr

1 llwy fwrdd rhinflas fanila

3 ŵy mawr

1 cwpan pwmpen wedi’i choginio a’i stwnsio

1 llwy de sinamon

¼ llwy de nytmeg

  • Cynheswch y popty i 180 gradd (300 gradd fahrenheit)
  • Toddwch y menyn a’i gymysgu gyda’r bisgedi a’r cnau pecan. Pwyswch i mewn i waelod ac ochrau dysgl 9 modfedd sydd â gwaelod rhydd
  • Cymysgwch y caws hufennog, ¾ y siwgr a’r rhinflas fanila. Ychwanegwch yr wyau un ar y tro a chymysgu’n dda
  • Cymerwch lond cwpan o’r cymysgedd a’i osod naill du
  • At y cymysgedd, ychwanegwch y bwmpen, gweddill y siwgr, sinamon a nytmeg. Cymysgwch yn dda
  • Tywalltwch hanner y cymysgedd i mewn i’r ddysgl
  • Ychwanegwch hanner y cytew oedd wedi’i roi naill du a gwnewch hyn eto hyd nes bod y cytew i gyd yn y ddysgl Gyda llwy, trowch y cymysgedd yn ofalus er mwyn cael patrwm marmor
  • Coginiwch am 50 munud neu hyd nes bod y cymysgedd bron wedi setio
  • Rhyddhewch y crwst o ochr y ddysgl gyda chyllell hir a’i adael i oeri
  • Rhowch yn yr oergell am o leiaf pedair awr neu’n well fyth dros nos. Tynnwch y gacen gaws a’r gwaelod o’r ddysgl a’i gweini

O: www.homecooking.about.com, Peggy Trowbridge Fillipone