Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Pecynnau
O gwtogi ar becynnau, byddwch chi'n creu llai o sbwriel!
Dyma rai awgrymiadau:
Ailgylchu yn y gwaith:
- Prynu llaeth mewn poteli i'w dychwelyd.
- O archebu prydau bys a bawd yn aml, gofyn i'r rhai sy'n eu paratoi ddefnyddio llai o becynnau. Ar y llaw arall, beth am ofyn iddyn nhw roi llestri, cyllyll a ffyrc go iawn ichi fel na fydd cymaint o wastraff.
- O baratoi te a choffi mewn cyfarfodydd, ceisio arbed gwastraff a chostau fel ei gilydd trwy roi llaeth a siwgr mewn llestri yn lle'r blychau tafladwy. Gallwch chi gael dŵr yfed o'r tap yn lle prynu potelaid bob tro.
- Trwy fynd â chetris inc gwag yn ôl i'r siop i'w llenwi, mae modd arbed gwastraff a chostau fel ei gilydd. Mae rhai siopau deunydd ysgrifennu yn cynnig gwasanaeth o'r fath.
Yn yr Ysgol:
- Er enghraifft, gallech chi ddefnyddio fflasg neu botel ar gyfer diodydd yn lle carton,
- Cadw'ch brechdanau mewn becyn bwyd gellir ei ailddefnyddio yn lle eu lapio;
- Prynwch ffrwythau heb becynnau yn lle creision a bisgedi;
- Cymerwch ffrwythau heb ei becynnu yn hytrach na bisgedi a chreision wedi’u pecynnu’n drwm.
Wrth siopa:
- Prynu ffrwythau a llysiau rhydd i gwtogi ar becynnau diangen;
- Cario pethau adref mewn bag y gallwch chi ei ailddefnyddio.


