Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Dudley Newbery

Reis brwysiedig gyda chyw iâr sy’n weddill, madarch a chourgettes (pryd i 4)

CYNHWYSION

1 x Nionyn mawr, wedi’I dorri (tua 200g)Dudley Newbery

10 x Madarch, wedi’u sychu a’u sleisio (tua 100g)

1 x deilen bay

4 x sleisen o gig moch, wedi’u torri I ddarnau bychain( tua 150g)

1 x courgettes, wedi’I dorri I bedwar darn  

2 x glof garlleg, wedi’u torri’n fan

400g Cyw iâr wedi’I goginio sy’n weddill, ac wedi’I dorri

2 x llwy de saij wedi’i sychu

2 x gwpaned o reis graen hir

1 x litr stoc cyw iâr

2 x llwy ffwrdd olew’r olewydd

Pupur du

DULL

1. Cynheswch olew'r olewydd mews padell ffrio fawr, coginiwch y nionod a'r garlleg yw meddalu.

2. Ychwanegwch y madarch wedi’u torri, a choginiwch nes eu bod yn brownio.

3. Ychwanegwch y darnau cig moch, a’u coginio, yna ychwanegwch y saij a’r reis. Cymysgwch y cynhwysion i gyd.

4. Arllwyswch y stoc cyw iâr poeth dros y reis a’i goginio am 5 munud.

5. Trowch y cyw iâr i mewn i’r gymysgedd ai goginio am 3 munud.

6. Tra bod y cyw iâr y coginio, mewn padell lan cynheswch 1 llwy ffwrdd o olew'r olewydd a choginiwch y courgettes am 2 funud.  Ychwanegwch y pupur du ac yna ychwanegwch i'r gymysgedd reis.

7. I orffen ychwanegwch sudd lemon - fel rheol bydd darn yng nghefn yr oergell.

8. Os hoffech - ychwanegwch fasil wedi’i dorri, persli neu darragon, hefyd ychydig lwyau o hufen neu ‘crème. Fel rheol mae ychydig ar ôl mewn twb yn yr oergell a fyddai fel arall yn mynd i’r bin