Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Am wastraff!
Yng Nghymru, rydyn ni’n taflu tua 400,000 o dunelli o fwyd a diodydd bob blwyddyn – swm anferth!
Mae rhywfaint o’r gwastraff hwn yn cynnwys pethau fel esgyrn, a phlicion a chalonnau ffrwythau, ond mae’r rhan fwyaf ohono yn fwyd perffaith dda, neu yr oedd yn fwyd da, y dylid bod wedi ei fwyta.
Beth yw’r broblem?
Ar wahân i wastraffu adnoddau ac arian, os yw’r gwastraff bwyd yn diweddu mewn safleoedd tirlenwi y mae’n pydru ac yn cynhyrchu nwyon tŷ gwydr cryf.
Nid yw 90% ohonom yn sylweddoli faint o fwyd yr ydym yn ei daflu.
Dyma pam mae Cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn hybu’r ymgyrch "Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff" er mwyn helpu i sicrhau bod llai o fwyd da yn cael ei daflu mewn cartrefi ar draws y wlad.
Casglu gwastraff bwyd a chompostio gartref
Y peth gorau a all ddigwydd i fwyd yw ei fod yn cyrraedd ein platiau ac yn cael ei fwynhau, ond mae gwastraffu rhywfaint o fwyd yn anorfod.
Ni fydd plisgyn wyau, croen banana a bagiau te byth yn cael eu cynnwys ar y fwydlen.
Os ydych yn byw mewn ardal lle mae gwasanaeth lleol i gasglu bwyd o ddrws i ddrws, gallwch ei ddefnyddio i gasglu unrhyw beth na allwch ei fwyta.
Os nad oes gennych wasanaeth casglu gwastraff bwyd hyd yma gallwch gompostio rhywfaint o’ch gwastraff bwyd eich hunain, er enghraifft plicion llysiau, calonnau ffrwythau, bagiau te a phlisgyn wyau.
I gael rhagor o wybodaeth, cyngor a ryseitiau ewch i wefan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff.



