Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff

Am wastraff!Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff

Yng Nghymru rydym yn taflu cymaint â 330,000 tunnell o fwyd bob blwyddyn.

Mae rhywfaint o’r gwastraff hwn yn cynnwys pethau fel esgyrn, a phlicion a chalonnau ffrwythau, ond mae’r rhan fwyaf ohono yn fwyd perffaith dda, neu yr oedd yn fwyd da, y dylid bod wedi ei fwyta.

Dyma pam mae Cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn hybu’r ymgyrch "Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff" er mwyn helpu i sicrhau bod llai o fwyd da yn cael ei daflu mewn cartrefi ar draws y wlad.

Beth yw’r broblem?

Ar wahân i wastraffu adnoddau ac arian, os yw’r gwastraff bwyd yn diweddu mewn safleoedd tirlenwi y mae’n pydru ac yn cynhyrchu nwyon tŷ gwydr cryf.

Nid yw 90% ohonom yn sylweddoli faint o fwyd yr ydym yn ei daflu.

Mae ymchwil cyfredol yn awgrymu bod oddeutu 40% (yn ôl y pwysau) o’r bwyd sy’n cael ei daflu yn ffrwythau a llysiau ffres y gellid bod wedi eu bwyta.

Ewch i dudalen 2

Bookmark and Share