Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Casglu gwastraff bwyd a chompostio gartref
Y peth gorau a all ddigwydd i fwyd yw ei fod yn cyrraedd ein platiau ac yn cael ei fwynhau, ond mae gwastraffu rhywfaint o fwyd yn anorfod.
Ni fydd plisgyn wyau, croen banana a bagiau te byth yn cael eu cynnwys ar y fwydlen.
Os ydych yn byw mewn ardal lle mae gwasanaeth lleol i gasglu bwyd o ddrws i ddrws, gallwch ei ddefnyddio i gasglu unrhyw beth na allwch ei fwyta.
Os nad oes gennych wasanaeth casglu gwastraff bwyd hyd yma gallwch gompostio rhywfaint o’ch gwastraff bwyd eich hunain, er enghraifft plicion llysiau, calonnau ffrwythau, bagiau te a phlisgyn wyau.
Mae Cynllun Craff am Wastraff Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â WRAP (Rhaglen Gweithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau) i gyflwyno’r Ymgyrch Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff. I gael rhagor o wybodaeth, cyngor a ryseitiau ewch i wefan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff


