Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Deall beth yw ystyr dyddiadau ar labeli
Defnyddiwch erbyn
Dyma’r dyddiad allweddol o ran diogelwch - peidiwch byth â bwyta cynhyrchion bwyd ar ôl y dyddiad hwn a dilynwch gyfarwyddiadau storio. Efallai y gallwch rewi’r bwyd os byddwch yn dymuno ei fwyta’n ddiweddarach. Gan amlaf mae’r dyddiadau ‘Defnyddiwch erbyn’ ar gynhyrchion oer fel cigoedd wedi eu coginio, caws meddal a phwdinau o gynhyrchion llaeth.
Gwell cyn
Gan amlaf mae’r dyddiadau ‘Gwell cyn’ ar fwydydd sy’n gallu para’n hirach ar y silff er enghraifft bwyd wedi ei rewi, bwyd tun neu nwyddau sych. Mae’n cyfeirio at ansawdd yn hytrach na diogelwch. Felly dylech ddefnyddio eich synnwyr cyffredin gyda’r bwydydd hyn. Dylai fod yn ddiogel i chi fwyta bwyd ar ôl y dyddiad ‘gwell cyn’, ond efallai na fydd y bwyd ar ei orau erbyn hynny. Mae wyau yn un eithriad – peidiwch byth â bwyta wyau ar ôl y dyddiad gwell cyn.
Arddangoswch tan \ Gwerthwch erbyn
Mae dyddiadau megis ‘arddangoswch tan’ neu ‘gwerthwch erbyn’ i’w gweld yn aml wrth ymyl dyddiad ‘gorau cyn’ neu ‘defnyddiwch erbyn’. Cânt eu defnyddio gan rai siopau i’w helpu i reoli stoc ac maent yn gyfarwyddiadau ar gyfer staff y siop ac nid ar gyfer siopwyr.
Ewch i dudalen 6


