Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Awgrymiadau buddiol i gadw bwyd yn fwy ffres am fwy o amser
- Cadwch eich tomatos yn yr oergell er mwyn eu cadw’n galed ac yn fwy ffres yn hirach. Ceisiwch eu cadw mewn bag sydd wedi ei glymu’n llac er mwyn eu cadw’n galetach.
- Dylid storio tatws mewn lle oer, tywyll a sych – byddant yn cadw’n ffres trwy eu cadw mewn bag llysiau. Gellid hyd yn oed eu storio mewn bag yn yr oergell os oes gennych le.
- Nid bowlen ffrwythau yw’r lle gorau ar gyfer afalau – cadwch nhw yn yr oergell. Efallai y bydd pobl sydd â dannedd sensitif yn dymuno dod â nhw i dymheredd ystafell cyn eu bwyta.
- Storiwch eich broccoli yn yr oergell bob amser – neu fel arall mae’n tueddu i fynd yn feddal ac yn felyn yn gyflym. Bydd ei gadw mewn bag llysiau yn ei helpu i gadw’n fwy ffres am hirach.
- Mae’n well cadw lemon a phupur mewn bag yn yr oergell - wrth wneud hyn maent yn cadw mwy o leithder ac felly’n cadw’n fwy ffres am hirach.
Meddyliwch ymlaen llaw!
- Gwnewch restr cyn mynd i siopa – gall hyn arbed amser ac arian
- Edrychwch yn eich cwpwrdd neu rewgell – heb anghofio cefn eich oergell – cyn i chi fynd i brynu rhagor o fwyd.
- Cadwch y prif gynhwysion y gellir gwneud pryd o fwyd cyflym ohonynt mewn cwpwrdd
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth sydd angen ei fwyta gyntaf ac yn gwybod pa ddyddiadau sydd ar y labeli
- Dylech siopa gan feddwl am brydau penodol gan fod yn realistig ynglŷn â’r hyn y byddwch yn ei fwyta
Gwerthfawrogwch eich bwyd
- Gwnewch ddefnydd da o’r oergell a’r rhewgell i gadw bwyd yn well – er enghraifft, gallwch gadw’r rhan fwyaf o ffrwythau aeddfed yn yr oergell er mwyn eu cadw’n hirach.
- Gellir rhoi moron neu giwcymbr mewn dŵr a’u hoeri er mwyn iddynt fynd yn galed eto
- Defnyddiwch gynhwysyddion aerdyn i storio eich bwyd
- Cadwch dymheredd eich oergell rhwng 1-5ºC – bydd hyn yn helpu i gadw eich bwyd ar ei orau
Mesur a rhannu bwyd yn well
- Pan fyddwch yn coginio ar gyfer teulu – mesurwch y bwyd – gyda chwpan efallai – fel eich bod yn cael y mesur cywir ar gyfer pob person.
- Mesur reis heb ei goginio:
- Mesur ar gyfer oedolyn: 5 llwy fwrdd - 75ml
- Mesur ar gyfer plentyn: 2 1/2 llwy fwrdd - 35ml
- Pedwar oedolyn: Mwg llawn - 300ml
Dyma rai syniadau ynglŷn â sut i arbed bwyd.
Mae rhagor o syniadau ar y Wefan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff (Safle Saesneg yn unig)
Ewch i dudalen 5


