Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
A yw hyn yn effeithio ar yr amgylchedd?
Mae gwastraff bwyd yn gost enfawr i’r amgylchedd.
Mae’r holl fwyd yr ydym yn ei daflu yn wastraffu ar adnoddau. Meddyliwch faint o ynni, dŵr a deunydd pacio sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu, cludo a storio bwyd. Mae hyn i gyd yn cael ei wastraffu pan fyddwn yn taflu bwyd sy’n berffaith iawn.
Amcangyfrifir bod dros 20% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y Deyrnas Unedig yn gysylltiedig â chynhyrchu, dosbarthu a storio bwyd ….
Mae caws yn enghraifft dda – bwydo a godro’r gwartheg, oeri a chludo’r llaeth, ei brosesu i wneud caws, ei becynnu a’i gario i’r siopau, ei gadw ar y tymheredd iawn drwy’r amser. Os bydd wedyn yn cael ei daflu bydd yn fwy na thebyg yn diweddu mewn safle tirlenwi, lle mae’n pydru ac yn rhyddhau methan, sy’n nwy tŷ gwydr cryf yn hytrach na dadelfennu’n ddiniwed fel y mae llawer o bobl yn ei feddwl.
Hefyd bydd y rhan fwyaf o’r bwyd yr ydym yn ei wastraffu yn diweddu mewn safleoedd tirlenwi, lle mae’n dadelfennu i gynhyrchu methan – nwy tŷ gwydr sydd 23 gwaith cryfach na Charbon Deuocsid (CO2) ac sy’n cyfrannu’n sylweddol at newid yn yr hinsawdd.
O ganlyniad i gynhyrchu, dosbarthu, cadw, defnyddio a thrin bwyd y gallen ni fod wedi osgoi ei wastraffu yn y DG, bydd tua 17 miliwn o dunelli o nwyon tŷ gwydr ychwanegol yn yr awyrgylch bob blwyddyn.
Pe byddem yn rhoi’r gorau i wastraffu’r holl fwyd hwn, byddai’r allyriadau carbon deuocsid (CO2) y gallem ei arbed bob blwyddyn yn cyfateb i dynnu 1 ym mhob 5 car oddi ar ffyrdd Cymru.
Mae awgrymiadau buddiol ynglŷn â sut i arbed gwastraff bwyd ar y dudalen nesaf [links to new page]
Ewch i dudalen 4


