Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Pam yr ydym ni’n gwastraffu’r holl fwyd yma?
Dyma’r ddau brif reswm pam y mae bwyd yn cael ei wastraffu:
- Rydym yn coginio neu baratoi gormod o fwyd
- Mae’r bwyd yn mynd ‘heibio’i ddyddiad’ neu rydym yn anghofio amdano ac mae’n mynd yn rhy hen
Y 5 prif fwyd a wastreffir yw ffrwythau a llysiau, cig a physgod, bara a chynnyrch pobi arall, cynhyrchion llaeth, reis a phasta.
Rydym yn taflu tomen anferthol o fwyd sy’n berffaith iawn. Bob dydd yn y Deyrnas Unedig rydym yn taflu:
- 7 miliwn tafell o fara
- 5.1 miliwn o datws cyfan
- 4.4 miliwn o afalau cyfan
- 2.8 miliwn o domatos
- 1.3 miliwn o botiau iogwrt heb eu hagor
- 1 miliwn sleis o ham
O’r holl wastraff bwyd y gellid fod wedi ei osgoi, mae ei hanner yn cael ei daflu oherwydd nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn pryd (er enghraifft cyn y dyddiad a nodir ar y bwyd) neu nid oes ei angen bellach. Hefyd mae un o bob saith o’r eitemau hyn yn dal i fod yn eu deunydd pacio pan gânt eu taflu i’r bin.
Mae’n rhaid bod hynny’n gwastraffu llawer o arian?
Ydi, mae’r goblygiadau ariannol yn enfawr; yng Nghymru rydym yn prynu ac yna’n gwastraffu oddeutu £600 miliwn bob blwyddyn ar fwyd a diod y gellid bod wedi ei fwyta.
Ar gyfartaledd mae hynny’n £420 y flwyddyn ym mhob cartref. Mewn cartrefi lle mae plant mae’r swm hyd yn oed yn fwy, sef tua £610 y flwyddyn!!
Ewch i dudalen 3


