Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff

Dyma rai syniadau yr hoffem eu rhannu:

Gweld ymlaen llaw!

  • Tynnwch restr cyn mynd i siopa - bydd hyn yn arbed amser ac arian. bag cotwm gyda ffrwythau a llysiau rhydd
  • Edrychwch beth sydd yn eich cwpwrdd neu eich rhewgell - heb anghofio pen pellaf eich oergell - cyn i chi fynd i brynu mwy.
  • Cadwch y prif gynhyrchion yn eich cwpwrdd bwyd - sef y cynhwysion y gellir gwneud pryd sydyn ohonynt
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth sydd angen ei fwyta gyntaf a gwybod beth yw’r dyddiadau ar y labeli
  • Ewch i siopa yn gwybod pa brydau sydd gennych mewn golwg, a byddwch yn realistig ynglŷn â beth yr ydych am ei fwyta.

Parchwch eich bwyd ……

  • Gwnewch y defnydd gorau o’r oergell a’r rhewgell fel bod bwyd yn cadw’n well - er enghraifft, gellir cadw’r rhan fwyaf o ffrwythau aeddfed yn yr oergell er mwyn iddynt barhau’n hirach.
  • Gellir gadael moron neu giwcymbrau meddal mewn dwr a'u hoeri er mwyn rhoi eu blas yn ôl ynddynt.
  • Cadwch dymheredd eich oergell rhwng 1 a 5ºC - mae hyn yn eich helpu i gael i gorau o’ch bwyd.

Mesurwch eich prydau:

  • Pan fyddwch yn coginio i deulu - cymerwch ychydig funudau i fesur maint y prydau - yn eich hoff gwpan, efallai -er mwyn i chi wybod beth fydd maint pob pryd unigol.

Mesur reis sydd heb ei goginio:

Pryd Oedolyn: Pum llwyaid - 75ml

Pryd plentyn: Dwy lwyaid a hanner - 35ml

Pedwar oedolyn: Llond Myg - 300ml


Syniadau ar gyfer coginio a ryseitiau: 

  • Mae prydau sydd wedi eu gwneud o weddillion yn gallu bod yn hyfryd ac yn gallu arbed amser - gall fod yn fwyd sydd ar ôl o’r noson cynt neu’n fwyd sydd ar ôl yn yr oergell neu’r cwpwrdd.
  • Gynhaliwch eich ‘Ready Steady Cook’ eich hun i weld pa brydau y gallwch eu gwneud.
  • Ryseitiau arbed bwyd - defnyddiwch fwydydd a chynhwysion sydd wedi eu "hanghofio" ac a allai fod wedi gorfod cael eu taflu fel arall.

A beth i’w wneud â’r crafion a’r calonnau ffrwythau? Mae compostio gartref yn ffordd wych o ddefnyddio gwastraff bwyd na ellir ei osgoi, megis crafion, calonnau ffrwythau a bagiau te, rhag gorfod mynd â nhw i safle tirlenwi. Ac mae compost yn gallu gwneud gwyrthiau yn yr ardd.

Mae Cynllun Craff am Wastraff yn gweithio mewn partneriaeth â WRAP i gyflwyno Ymgyrch Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff - am ragor o wybodaeth ewch i Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff www.lovefoodhatewaste.com

Dyma syniadau ar gyfer ryseitiau blasus gan y cogydd Cymreig Dudley Newbery yn ogystal â chogyddion enwog eraill:

Dudley Newbery - Reis brwysiedig gyda cyw iâr sy'n weddill gyda madarch a courgettes

Antony Worrall Thompson - Stwnsh Merllys (Asbaragws), Cig Mochyn wedi'i Fygu, a Sialots (pryd i 2)

Ken Hom - Reis wedi'i ffrio

Hugh Fearnley-Whittingstall - 'Glutney' (Siytni)