Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff
Dudley Newbery yn ein hannog i 'Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff’
"Anodd credu ein bod yng Nghymru yn taflu oddeutu traean y bwyd a brynir bob blwyddyn – felly mae’r ymgyrch yn gofyn i bobl feddwl am ffyrdd o helpu i leihau’r gwastraff hwn. Mae llawer o bobl yn credu nad yw taflu bwyd cynddrwg â thaflu mathau eraill o wastraff am ei fod yn pydru. Ond mae gwastraff bwyd yn cymryd llawer o le yn ein safleoedd tirlenwi ac yn rhyddhau'r nwy tŷ gwydr niweidiol methan."
"Rwy’n cefnogi’r ymgyrch drwy ofyn i bobl feddwl ychydig yn fwy gofalus am y bwyd y maent yn ei ddefnyddio - cynllunio prydau ymlaen llaw i ddefnyddio bwydydd yn nhrefn dyddiadau oes silff, a defnyddio sbarion mewn pryd arall yn hytrach na’u taflu. Gellir gwneud cymaint o brydau blasus gyda ‘sbarion’ neu fwyd a fyddai’n cael ei daflu fel arall – rhowch ymgais ar fy rysait!"
Er bod rhywfaint o’r gwastraff bwyd yma yn fagiau te ac esgyrn pysgod, mae’r rhan fwyaf ohono yn fwyd a fyddai wedi bod yn berffaith iawn i’w fwyta - pe baem ni ond wedi ei ddefnyddio yn amserol neu heb wneud gormod ohono. Dyma pam bod Cynllun Craff am Wastraff yn hybu ymgyrch newydd - "Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff" - fel bod cartrefi ledled y wlad yn taflu llai o fwyd da i ffwrdd.
Am fwy o syniadau ewch i tudalen 3

