Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff X
Beth yw’r broblem?
- Nid yw 90% ohonom yn sylweddoli faint o wastraff yr ydym yn daflu i ffwrdd.
Pam fod yr holl fwyd yma’n cael ei wastraffu?
Y ddau brif reswm pam bod bwyd da yn cael ei wastraffu yw:
- Rydym yn coginio neu’n paratoi gormod o fwyd
- Rydym yn gadael iddo fynd heibio ei ddyddiad "defnyddiwch erbyn" neu rydym yn anghofio amdano.
Yw hyn yn wastraff Arian?
- Mae’r gost ariannol yn aruthrol; yng Nghymru rydyn ni’n prynu ac wedyn gwastraffu tua £500 miliwn pob blwyddyn ar fwyd y gallai fod wedi cael ei fwyta. Mae hyn tua £420 pob teulu, pob blwyddyn.
- Dyma 5 ffordd ardderchog o arbed costau bwyd Ffynhonnell: Gwefan ‘Love Food Hate Waste’ (dim ond yn Saesneg)
Oes yna effaith amgylcheddol i hyn?
- Mae cynhyrchu, cludo, a storio bwyd yn defnyddio llawer o egni, dŵr a phecynnu, sy’n cael ei wastraffu os yw’r holl
fwyd yma yn cael ei wastraffu. Os byddem yn stopio gwastraffu’r holl fwyd yma, gallem arbed digon o garbon deuocsid bob blwyddyn a fyddai cyfateb i dynnu 1 o bob 5 car oddi ar ffyrdd Cymru. - Mae’r rhan fwyaf o’r bwyd rydym yn wastraffu yn mynd i safle tirlenwi. Mae hyn yn creu methane, sef nwy tŷ gwydr peryglus.
Dyma ragor…
- Mae compostio gartref yn ffordd wych o ddefnyddio gwastraff bwyd na ellir ei fwyta, megis crafion, calonnau ffrwythau a bagiau te, fel nad oes rhaid iddo fynd i safle tirlenwi.
- Mae llawer ohonom yn credu bod gwastraff deunydd pecynnu yn broblem waeth na gwastraff bwyd. Yn y Deyrnas Unedig mae 6.3 miliwn o dunelli o wastraff deunydd pecynnu, a 6.7 o dunelli o wastraff bwyd.
Geiriau o gyngor ar gadw ffrwythau a llysiau yn ffres yn hirach ar y tudalen nesa


