Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff X

Mae traean o’r holl fwyd yr ydym yn ei brynu yn cael ei daflu i ffwrdd.

Hoffi Bwyd Casáu GwastraffMeddyliwch! Rydym yn taflu traean o’r bwyd yr ydym yn ei brynu. Ar ben hynny, er bod rhywfaint ohono yn fagiau te ac esgyrn pysgod, mae’r rhan fwyaf ohono yn fwyd a fyddai wedi bod yn berffaith iawn i’w fwyta - pe baem ni ond wedi ei ddefnyddio yn amserol neu heb wneud gormod ohono. Dyma pam bod Cynllun Craff am Wastraff yn hybu ymgyrch newydd - "Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff" - fel bod cartrefi ledled y wlad yn taflu llai o fwyd da i ffwrdd.

Yng Nghymru rydym yn taflu 330,000 o dunelli o fwyd i ffwrdd bob blwyddyn. Os bydd hwn yn mynd i safle tirlenwi bydd yn cyfrannu i’r newid yn yr hinsawdd gan ei fod yn gollwng methan, sy’n nwy tŷ gwydr cryf iawn. Mae’r goblygiadau amgylcheddol, yn ogystal â’r goblygiadau ariannol, yn sylweddol - yng Nghymru rydym yn prynu gwerth tua £500 miliwn o fwyd ac wedyn yn ei wastraffu, a hwnnw’n fwyd y gellid bod wedi ei fwyta.