Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Ffeithiau allweddol
Oes gwir angen y peth?
Gofynnwch y cwestiwn yma wrth siopa. Allwch chi ailddefnyddio neu drwsio'r hyn sydd gyda chi? Oes nwyddau eildro ar gael? O brynu nwyddau eildro, byddwch chi'n rhoi hwb i'r rhai sy'n casglu deunyddiau o'r mannau ailgylchu lleol. Bydd llai o sbwriel ar y domen yn sgîl dewis nwyddau eildro.
'Dim ond ar ôl 500 mlynedd bydd bag plastig yn pydru mewn tomen, ac rydyn ni'n taflu 500 miliwn ohonyn nhw bob wythnos!'
Peidiwch â'i daflu…..
…..Mae'r pethau rydych chi'n eu hailgylchu yn adnoddau gwerthfawr i'w troi'n bethau defnyddiol!!
Ydych chi'n gwybod bod modd ailgylchu poteli pop plastig i wneud cot gynnes fel hon?

Mae angen tua 25 potel i wneud un got.
Y gwir am lythyrau sgrwtsh

- i gwtogi ar lythyrau sgrwtsh yn 2006.
- Mae angen 17 coeden, 7,000 o alwyni o ddŵr a 390 o alwyni o olew i gynhyrchu tunnell o lythyrau sgrwtsh.
- O gymryd camau nawr a dileu'ch enw o gronfeydd data cwmnïau masnachol, gallwch chi helpu i gwtogi ar nifer y llythyrau dieisiau.
Y gwir am gewynnau go iawn
- Bydd angen tua 2,000 o gewynnau ar eich plentyn bob blwyddyn.
- Bydd eich plentyn yn defnyddio tua 5,000 o gewynnau cyn rhoi'r gorau iddyn nhw!
- Gallwch chi arbed £500 trwy ddefnyddio cewynnau go iawn.

