Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Ken Hom
Gweddill Reis wedi’i Ffrio (pryd i 2-4)
Mae Tsieineaidd yn casáu gwastraffu unrhyw beth. Mae taflu bwyd i ffwrdd yn groes i’w cydwybod. Dyma’r wers a ddysgwyd yn dda i mi gan fy mam, a hyd heddiw, er fy mod yn gefnog, ni allaf yn fy myw â thaflu gweddillion bwyd i ffwrdd. Yn ffodus, mae’r woc ar ei fwyaf defnyddiol pan fydd angen gwneud y gorau o weddillion. Yr ateb yw creu prydau blasus a maethlon trwy ddefnyddio techneg ffrio gyda’r woc. Dyma rysáit sy’n defnyddio’r cynhwysion oedd dros ben yn fy oergell y diwrnod o’r blaen: gweddillion giwcymbr ac India corn wedi eu cymysgu gyda rhywbeth sbeislyd. Roedd gweddill reis oer yn ei droi’n bryd. Byddwch yn mwynhau gwledd flasus ac yn teimlo’n dda hefyd. Os bydd gennych reis dros ben, rhowch o yn yr oergell yn hytrach na’i daflu i ffwrdd. Cofiwch y dylai eich reis fod yn oer iawn cyn i chi ei roi yn y woc.
CYNHWYSION
Os yw’r reis wedi’i goginio wedi rhewi, rhaid ei ddadrewi
2 wy wedi’u curo
2 lond llwy de o olew sesame
½ llond llwy de o halen
2 lond llwy fwrdd o olew cnau daear (cnau mwnci)
225 g (8 owns) o nionyn wedi’i dorri’n fras
2 lond llwy de o halen
½ llond llwy de o bupur du mâl ffres
175 g (6 owns) o giwcymbr wedi’i blicio, wedi cael tynnu’r hadau ac wedi’i ddeisio
100 g (4 owns) cnewyll India corn ffres neu wedi’u rhewi
1 lond llwy de o olew chilli
DULL
1. Coginiwch y reis am o leiaf 2 awr neu wneud hynny y noson cynt. Gadewch iddo oeri’n gyfan gwbl a’i roi yn yr oergell.
2. Rhowch yr wyau, yr olew sesame a’r halen gyda’i gilydd. Cynheswch woc neu badell ffrio fawr ar wres uchel hyd nes y bydd yn boeth. Ychwanegwch yr olew, a phan fydd yn boeth iawn ac yn mygu ychydig ychwanegwch y nionyn, yr halen a’r pupur. Yna, ei ffrio a’r droi am 2 funud. Yna, ychwanegwch yr wyau wedi’u curo, a ffrio a throi am 1 funud. Ychwanegwch y reis a daliwch i ffrio a throi am 3 munud.
3. I orffen, ychwanegwch y ciwcymbr, yr India corn a’r olew chilli, a daliwch i ffrio a throi am 5 munud.
4. Rhowch o ar blât mawr a’i gyflwyno’n boeth neu’n oer fel salad reis.

