Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Llythyrau sgrwtsh

Gwrthod llythyrau sgrwtsh

Ydych chi'n gwybod bod modd cwtogi ar y llythyrau sgrwtsh rydych chi'n eu cael?

O gymryd camau heddiw, gallech chi gwtogi'n fawr ar y sgrwtsh sy'n dod trwy'r drws!

Dyma'r manylion:

  • Cysylltwch â www.mpsonline.org.uk i ddadgofrestru ac, ymhen 3-6 mis, dylech chi weld gwahaniaeth mawr yn nifer y llythyrau sgrwtsh wedi'u hanfon atoch chi.

  • Os nad ydych chi am i’r postmon ddod â deunydd ‘ar gyfer y preswylydd’, cysylltwch â’r Post Brenhinol a gofyn am ffurflen ymeithrio. Cewch chi wneud hynny trwy anfon neges i optout@royalmail.com neu lythyr i:
    Freepost RRBT-ZBXB-TTTS
    Door to Door Opt Outs
    Royal Mail
    Kingsmead House
    Oxpens Road
    OXFORD
    OX1 1RX


  • Defnyddiwch yr amlen barod a ddaeth gyda'r llythyr i anfon y cynnwys yn ôl i'r cwmni a gofyn iddo ddileu'ch enw o'i restr bostio.

  • Ffoniwch y cwmni anfonodd y sgrwtsh a gofyn iddo ddileu'ch enw a'ch cyfeiriad o'i restr bostio.  Dim ond os oes modd ei ffonio'n rhad ac am ddim neu yn ôl cyfradd leol y dylech chi wneud hynny.

  • Dewiswch beidio â dangos eich enw ar gopi cyhoeddus rhestr yr etholwyr, sydd ar gael i gwmnïau masnachol.

  • Darllenwch y print mân ar ffurflenni.  Mae rhai ffurflenni'n gofyn ichi dicio blwch i gael cynigion cwmnïau cysylltiedig ac mae rhai'n gofyn ichi ei dicio os nad ydych chi am eu cael.

  • Byddwch yn ofalus o ran rhoi'ch manylion i bobl!  Dylech chi ofyn i bob cwmni sy'n gwerthu nwyddau ichi beidio â lledaenu'ch manylion ymhlith cwmnïau eraill.