Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Llythyrau sgrwtsh
DYLECH CHI BOB AMSER:
- Dewis peidio â dangos eich enw ar gopi cyhoeddus rhestr yr etholwyr, sydd ar gael i gwmnïau masnachol;
- Darllen y print mân ar ffurflenni. Mae rhai'n gofyn ichi dicio blwch i gael cynigion gan gwmnïau cysylltiedig ac mae rhai'n gofyn ichi ei dicio os nad ydych chi am eu cael.
- Wrth brynu nwyddau neu wasanaethau dros y ffôn, dweud na hoffech chi ragor o wybodaeth am wasanaethau'r cwmni hwnnw a'i bartneriaid.
- Cofio ailgylchu unrhyw bost dieisiau a gewch chi.
Dolenni defnyddiol
www.mpsonline.org.uk
www.dma.org.uk
Ffeithiau allweddol
- I gynhyrchu tunnell o lythyrau sgrwtsh, mae angen 17 coeden, 7,000 o alwyni o ddŵr a 390 o alwyni o olew.
- Trwy gymryd camau nawr i ddileu'ch enw o bob rhestr, gallwch chi gwtogi'n fawr ar y llythyrau sgrwtsh sy'n dod trwy'ch drws.


