Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Llythyrau sgrwtsh
Mae post uniongyrchol dieisiau neu llythyrau ‘sgrwtsh’ yn faes twf o ran gwastraff, mae’r rhan fwyaf o’r llythyrau sgrwtsh dieisiau hwn yn diweddu heb ei ddarllen yn y bin.
Ffeithiau am Llythyrau Sgrwtsh
- Mae post uniongyrchol a deunydd hysbysebu yn defnyddio 550,000 tunnell o bapur: sef 4.4% o’r holl bapur a cherdyn a ddefnyddir yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn;
- Ar gyfer pob tunnell o lythyrau dieisiau a gynhyrchir mae angen 17 coeden, 7,000 galwyn o ddŵr a 390 galwyn o olew;
- Mae 3 i 4% o’r llif gwastraff o gartrefi yn Llythyrau Dieisiau neu 36kg i 48kg y tŷ y flwyddyn;
- Cynhyrchir oddeutu 78,000 tunnell o lythyrau dieisiau bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig;
- Bydd dros un rhan o dair o’r holl bost uniongyrchol yn cael ei daflu heb ei agor.
Ewch i dudalen 2


