Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Llythyrau sgrwtsh

Dywedwch NA wrth Llythyrau Sgrwtsh!  

Ydych chi’n gwybod y gallwch gwtogi ar y post dieisiau sy’n cael ei anfon atoch?

Trwy weithredu yn awr a thynnu eich enw o’u cronfeydd data gallwch helpu i gwtogi’r post sothach dieisiau a ddaw trwy eich blwch llythyron.

Fel hyn:

Ar gyfer post sothach wedi ei gyfeirio:
Tynnwch eich manylion oddi ar y gofrestr yn rhad ac am ddim gyda’r  Gwasanaethau Dewis Post (MPS) naill ai ar-lein yn www.mpsonline.org.uk, trwy ysgrifennu at;

Mailing Preference Service
Freepost 29 LON20771,
London
W1E 0ZT

neu drwy ffonio 0845 7034599.  O fewn 3-6 mis dylech weld gwahaniaeth mawr ym maint y post dieisiau a gewch drwy’r drws;

Ar gyfer llythyrau sgrwtsh rhanbarthol heb ei gyfeirio:
Os ydych eisiau stopio’r post heb ei gyfeirio (at y ‘meddiannydd’ neu ‘ddeiliad’) sy’n cael ei anfon gan y Post Brenhinol i’ch cartref gallwch wneud hynny trwy gysylltu â’u gwasanaeth eithrio o ddrws i ddrws yn y cyfeiriad isod.   

Freepost RRBT-ZBXB-TTTS
Royal Mail Door to Door Opt Outs
Kingsmead House, Oxpens Road
OXFORD  OX1 1RX

neu e-bostiwch: optout@royalmail.com  

Wedyn bydd y Post Brenhinol yn anfon ffurflen eithrio i’ch cyfeiriad, a bydd raid i chi ei llofnodi a’i dychwelyd. Bydd rhaid gwneud hyn am resymau diogelwch - er mwyn gwneud yn siŵr  mai’r bobl sy’n byw yn y cyfeiriad sydd wedi gwneud y cais i eithrio.  

Unwaith y byddwch wedi dychwelyd y ffurflen hon, bydd y Post Brenhinol yn stopio anfon eitemau heb eu cyfeirio at eich cyfeiriad o fewn 6 wythnos.

Ar y blwch llythyron:
Gallwch roi arwydd ar eich drws yn nodi "Dim Sgrwtsh" er mwyn helpu i dorri lawr ar nifer y taflenni yr ydych yn eu derbyn.  

Dychwelwch i’r Anfonwr – Defnyddiwch yr amlen ragdaledig a anfonwyd gan y cwmni i ddychwelyd y cynnwys a gofynnwch iddynt dynnu eich enw oddi ar eu rhestr bostio. Yn y modd yma bydd y cwmni yn talu am y stamp ac os bydd digon o bobl yn gwneud hyn, byddant yn chwilio am ffyrdd eraill o hysbysebu. Neu ysgrifennwch "Dychwelwch i’r Anfonwr"  ("Return to Sender") ar yr amlen.

Cyswllt Uniongyrchol - Ffoniwch y cwmni a anfonodd y post sothach a gofynnwch iddynt dynnu eich enw a’ch cyfeiriad oddi ar eu rhestr bostio. Cyn ffonio dylech ofalu bod ganddynt  radffôn neu rif ar gyfradd leol.

Peidiwch â defnyddio papur – Mae llawer o’r cwmnïau yr ydych yn delio â hwy, fel banciau a chatalogau, yn cynnig gwasanaethau ar-lein. Yn ogystal â bod yn ffordd gyfleus o weld eich cyfrif a thalu biliau ar-lein, efallai y gallwch hefyd roi’r gorau i dderbyn biliau a datganiadau papur. Cysylltwch â’ch darparwr gwasanaeth i gael mwy o fanylion.  

Eithrio – Dewiswch yr opsiwn sy’n nodi na fydd eich enw yn cael ei arddangos ar gopi cyhoeddus o’r rhestr etholiadol, a fydd yn cael ei gwerthu i gwmnïau postio. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol.  

Ticiwch y blwch – Darllenwch y print mân ar ffurflenni bob amser. Mae rhai ffurflenni yn gofyn i chi roi tic yn y blwch er mwyn derbyn cynigion oddi wrth gwmnïau eraill ac mae rhai ffurflenni yn gofyn i chi roi tic er mwyn peidio â derbyn manylion;  

Gofalwch am eich manylion – Byddwch yn ofalus i bwy yr ydych yn rhoi eich manylion! Gofynnwch i’r cwmni yr ydych yn prynu oddi wrthynt beidio â rhannu eich manylion gyda sefydliadau eraill.  

Dylech BOB AMSER

  • Ddewis yr opsiwn sy’n nodi na fydd eich enw yn cael ei arddangos ar gopi cyhoeddus o’r rhestr etholiadol, a fydd yn cael ei werthu i gwmnïau postio;
  • Darllenwch y print mân ar ffurflenni. Mae rhai ffurflenni yn gofyn i chi roi tic yn y blwch er mwyn derbyn cynigion oddi wrth gysylltiadau’r cwmni ac mae rhai yn gofyn i chi roi tic er mwyn peidio â derbyn manylion;
  • Pan fyddwch yn prynu eitemau neu gyfleustodau dros y ffôn gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich eithrio rhag derbyn rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau neu bartneriaid y cwmni hwnnw;  
  • Cofiwch ailgylchu unrhyw bost dieisiau y byddwch yn ei dderbyn.

Ond, os ydych yn mwynhau derbyn post uniongyrchol, dylech ei ailgylchu gyda’r holl bapurau eraill yn y safle ailgylchu lleol. I gael rhagor o wybodaeth am eich gwasanaethau ailgylchu lleol ewch i’r adran Yn Eich Ardal Chi  ar ein gwefan.

Cysylltiadau defnyddiol
www.mpsonline.org.uk
www.stopjunkmail.org.uk

 [W1]link