Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Arbed
Beth yw ystyr 'arbed'
Mae arbed gwastraff yn golygu cymryd camau i gynhyrchu llai o wastraff. Er enghraifft, wrth siopa peidiwch â chymryd bagiau siopa ond defnyddiwch fagiau am oes neu fagiau y gellir eu hailddefnyddio i gario eich neges adref.
Does dim rhaid ailddefnyddio, ailgylchu na gwaredu gwastraff sydd heb gael ei gynhyrchu yn y lle cyntaf, y peth mwyaf buddiol y gellwch ei wneud i’r amgylchedd yw peidio â chynhyrchu gwastraff yn y lle cyntaf.
Mae cynhyrchu llai o wastraff yn beth da oherwydd bod hynny’n:
- Lleihau’r galw am adnoddau naturiol
- Lleihau’r angen am dirlenwi
- Yn arbed ynni ac yn lleihau’r risg o newid yn yr hinsawdd
- Yn arbed arian i chi
Awgrymiadau Buddiol
Dyma rai syniadau syml ynglŷn â sut i gynhyrchu llai o wastraff yn eich cartref:
Arbed
- Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff – peidiwch â gwastraffu cymaint o fwyd – gellwch wneud rhai newidiadau syml i’r ffordd yr ydych yn prynu, storio a pharatoi eich bwyd.
- Siopa’n Ddoeth! Wrth siopa dewiswch ail-lenwi’r bocsys cynhyrchion lle bo modd - er enghraifft, cyflyrydd ffabrig, ffresnydd aer. Bydd hyn yn eich helpu i gynhyrchu llai o sbwriel;
- Byw’n Ddoeth - Mae llawer o newidiadau syml y gallwch eu gwneud o gwmpas y tŷ er mwyn cynhyrchu llai o wastraff.
- Llythyrau Sgrwtsh
- Cewynnau Go Iawn
- Compostio Gartref


