Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Arbed

Beth yw ystyr 'arbed'

Mae arbed gwastraff yn golygu cymryd camau i gynhyrchu llai o wastraff. Er enghraifft, wrth siopa peidiwch â chymryd bagiau siopa ond defnyddiwch fagiau am oes neu fagiau y gellir eu hailddefnyddio i gario eich neges adref.

Does dim rhaid ailddefnyddio, ailgylchu na gwaredu gwastraff sydd heb gael ei gynhyrchu yn y lle cyntaf, y peth mwyaf buddiol y gellwch ei wneud i’r amgylchedd yw peidio â chynhyrchu gwastraff yn y lle cyntaf.  

Mae cynhyrchu llai o wastraff yn beth da oherwydd bod hynny’n:

  • Lleihau’r galw am adnoddau naturiol  
  • Lleihau’r angen am dirlenwi  
  • Yn arbed ynni ac yn lleihau’r risg o newid yn yr hinsawdd  
  • Yn arbed arian i chi

Awgrymiadau Buddiol

Dyma rai syniadau syml ynglŷn â sut i gynhyrchu llai o wastraff yn eich cartref:  

Arbed

  • Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff – peidiwch â gwastraffu cymaint o fwyd – gellwch  wneud rhai newidiadau syml i’r ffordd yr ydych yn prynu, storio a pharatoi eich bwyd.  
  • Siopa’n Ddoeth! Wrth siopa dewiswch ail-lenwi’r bocsys cynhyrchion lle bo modd - er enghraifft, cyflyrydd ffabrig, ffresnydd aer. Bydd hyn yn eich helpu i gynhyrchu llai o sbwriel;
  • Byw’n Ddoeth - Mae llawer o newidiadau syml y gallwch eu gwneud o gwmpas y tŷ er mwyn cynhyrchu llai o wastraff.

    - Llythyrau Sgrwtsh
    - Compostio Gartref

Bookmark and Share