Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Compostio gartref

PAM compostio gartref?

Ffordd naturiol o ailgylchu rhyw draean o'ch sbwriel! Gallwch chi droi tua thraean o'r sbwriel yn eich bin yn gompost. Bydd croen llysiau, toriadau, papur a sawl peth arall yn pydru'n hawdd ac yn naturiol mewn bin compost cyffredin lle bydd llu o bryfed a bodau byw yn gwneud y gwaith DROSOCH CHI!

woman and kids

Os gadewch chi bethau o'r fath i'w casglu gyda'r sbwriel arall, fodd bynnag, tomen fydd pen y daith i'r rhan fwyaf – o dan dunelli o sbwriel lle nad oes awel o wynt… Digon i fynd â'ch gwynt chi? Dyma ragor…

Wrth gompostio gartref, rhowch amryw bethau yn y bin a bydd y compost yn cadw'r aer mae'i angen arno.  Er enghraifft, dylech chi grychu darnau o bapur a rhwygo blychau wyau yn fras cyn eu rhoi i mewn, gan ychwanegu gwastraff o'r ardd megis gwair a brigau.  Fydd dim angen eu didoli gan fod y pocedi aer yn helpu popeth i bydru'n naturiol.

Pam dylwn i osgoi anfon pethau i'r domen?

O gymysgu pethau sy'n pydru gyda gweddill y sbwriel, byddwch chi'n:




  • taflu pethau y gallech chi eu troi'n wrtaith er lles yr ardd a'r gymuned;
  • difwyno pethau eraill mae modd eu hailgylchu megis caniau a photeli, a’u rhwystro rhag cael eu hailgylchu cymaint ag y bo modd;
  • gwastraffu ynni ac adnoddau naturiol i'w defnyddio wrth eu casglu a'u trafod;
  • cwtogi ar y gwastraff sy'n cael ei ailgylchu a'i gompostio, gan ychwanegu at yr hyn sy'n mynd i’r domen.