Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Compostio gartref

SUT mae compostio

Y cwbl mae eisiau ei wneud yw rhoi'r bin compost mewn lle cyfleus (rhywle hawdd ei gyrraedd o'r gegin, o bosibl).  O'i osod ar bridd, bydd modd i'r pryfed ei gyrraedd yn hawdd, ond bydd concrit yn addas hefyd ar yr amod bod rhywfaint o ddraenio.

Cadwch flwch wrth law yn y gegin ar gyfer eich gwastraff er mwyn cwtogi ar faint o weithiau mae rhaid ichi fynd at y bin.

Beth a faint y dylwn i ei roi yn y bin?

Ymhlith pethau o'r cartref mae croen llysiau a ffrwythau amrwd, bagiau te, coffi, plisg wyau, leininau papur cewynnau (gan gynnwys y baw), hen bapur, cardfwrdd e.e. blychau wyau, craidd cardfwrdd y papur tŷ bach.  Ymhlith pethau o'r ardd mae coesynnau, brigau, gwair, dail sych, blodau, a baw/gwellt gwely creaduriaid sydd heb fwyta cig (e.e. bochdewion, cwningod).

Bydd pethau o'r fath yn pydru naill ai'n gyflym neu'n araf.  Gallwch chi eu rhoi gyda'i gilydd – fydd dim angen eu didoli ond dylech chi anelu at gadw'r ddysgl yn wastad rhwng y rhai sy'n pydru'n gyflym (pethau meddal a gwlyb) a'r rhai sy'n pydru'n araf (pethau caled a sych).

Mae cymysgedd o wyrdd a brown yn gwneud y compost perffaith

Gair i Gall:

  • Bob hyn a hyn, dylech chi roi chwa o awyr iach i'ch bin trwy godi/cymysgu'r cynnwys â fforch a/neu ychwanegu rhagor o bapur/cardfwrdd wedi'i grychu.
  • Pan ewch chi at y bin, dylech chi ofalu nad yw'n rhy wlyb neu sych.  Os yw'n sych, rhowch rai pethau gwlyb neu ddiferyn o ddŵr.  Os yw'n rhy wlyb, rhowch rywbeth sych ynddo.
  • O adael i'r broses naturiol weithio. fe gewch chi gompost cyn pen blwyddyn neu lai (chwech – wyth wythnos gyda thipyn o ymdrech).
  • Gallwch chi gyflymu'r broses trwy dorri pethau bras yn fân.
  • Pan welwch chi fod y compost fel pridd tywyll ac iddo wynt melys y ddaear, mae'n barod.