Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Compostio gartref
Dim ond hyn a hyn o le ac adnoddau sydd gyda ni ac, felly, allwn ni ddim parhau i gael gwared ar bethau a gwastraffu ynni fel hyn.
Mewn tomen, mae pethau'n pydru heb yr aer sy'n cynnal y bacteria da a allai ffynnu mewn bin compost. O ganlyniad, mae'r broses yn creu methan, un o'r nwyon tŷ gwydr sy'n niweidio awyrgylch y ddaear ac yn cyfrannu at GYNHESU BYD-EANG os ydyn ni'n methu â'u casglu a'u defnyddio.

Ynni o wastraff
Mae modd defnyddio methan i greu trydan. Mae llawer o wledydd Ewrop sy'n ailgylchu llawer yn creu ynni o wastraff – gan ddefnyddio ‘Treulwyr Anaerobig', canolfannau ynni o wastraff a ffyrdd eraill o reoli gwastraff, ynghyd â gwasanaeth ailgylchu, i ofalu eu bod yn rheoli gwastraff yn gynaladwy.
Mae arbenigwyr wedi astudio sustemau ledled y byd i wneud yn siwr y bydd pobl yn gallu rheoli gwastraff yn y modd gorau (gan wneud yn fawr o ailgylchu a chompostio).
Gadael i'r broses naturiol wneud y gwaith drosoch chi!
Gallwn ni elwa trwy osgoi taflu pethau (ac adnoddau naturiol) ar ôl eu defnyddio unwaith... Mae hynny'n berthnasol i becynnau, er enghraifft, a gwastraff eich cegin a'ch gardd. Pydru yw'r ffordd naturiol o adennill y maetholion sy'n gallu porthi'ch gardd, gardd eich cymydog neu fannau gwyrdd y gymuned! Y ffordd orau o roi'ch gwastraff ar waith yw cysylltu â'r cyngor neu'r ganolfan arddio leol, CAEL BIN a'i ROI I MEWN!


