Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Compostio gartref
PAM compostio gartref?
Ffordd naturiol o ailgylchu rhyw draean o'ch sbwriel! Gallwch chi droi tua thraean o'r sbwriel yn eich bin yn gompost. Bydd croen llysiau, toriadau, papur a sawl peth arall yn pydru'n hawdd ac yn naturiol mewn bin compost cyffredin lle bydd llu o bryfed a bodau byw yn gwneud y gwaith DROSOCH CHI!

Os gadewch chi bethau o'r fath i'w casglu gyda'r sbwriel arall, fodd bynnag, tomen fydd pen y daith i'r rhan fwyaf – o dan dunelli o sbwriel lle nad oes awel o wynt…
Digon i fynd â'ch gwynt chi? Dyma ragor…
Wrth gompostio gartref, rhowch amryw bethau yn y bin a bydd y compost yn cadw'r aer mae'i angen arno. Er enghraifft, dylech chi grychu darnau o bapur a rhwygo blychau wyau yn fras cyn eu rhoi i mewn, gan ychwanegu gwastraff o'r ardd megis gwair a brigau. Fydd dim angen eu didoli gan fod y pocedi aer yn helpu popeth i bydru'n naturiol.
Pam dylwn i osgoi anfon pethau i'r domen?
- O gymysgu pethau sy'n pydru gyda gweddill y sbwriel, byddwch chi'n:
- taflu pethau y gallech chi eu troi'n wrtaith er lles yr ardd a'r gymuned;
- difwyno pethau eraill mae modd eu hailgylchu megis caniau a photeli, a’u rhwystro rhag cael eu hailgylchu cymaint ag y bo modd;
- gwastraffu ynni ac adnoddau naturiol i'w defnyddio wrth eu casglu a'u trafod;
- cwtogi ar y gwastraff sy'n cael ei ailgylchu a'i gompostio, gan ychwanegu at yr hyn sy'n mynd i’r domen.


