Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Compostio Gartref

PAM y dylech chi gompostio gartref?

  • fel nad yw gwastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi;
  • mae deiliad y tŷ yn cael gwrtaith rhad ac am ddim ar gyfer yr ardd


Mae compost yn fwyd maethlon i’ch gardd a bydd yn helpu i wella adeiladwaith y pridd, cadw lefelau lleithder a chadw cydbwysedd PH eich pridd mewn trefn ac ar yr un pryd yn helpu i atal clefydau mewn planhigion.

Mae’n cynnwys popeth sydd ei angen ar eich planhigion gan gynnwys nitrogen, ffosfforws a photasiwm a bydd yn helpu mewn priddoedd sy’n asidig neu’n alcalïaidd iawn. Mae compost yn gwella cyflwr eich pridd a bydd eich planhigion a’ch blodau wrth eu boddau!   

Gall natur ailgylchu eich gwastraff ‘gwyrdd’!

Mae gwastraff gardd neu ‘wastraff gwyrdd’, er engraifft glaswellt, dail, brigau a phlanhigion yn fioddiraddadwy a bydd yn pydru’n hawdd, ac yn naturiol, mewn bin compost!

Ond os gwnewch chi adael y gwastraff gwyrdd hwn allan er mwyn cael ei gasglu fel sbwriel, bydd y rhan fwyaf ohono yn cael ei waredu mewn safle tirlenwi. Mae gofod ac adnoddau naturiol yn brin felly mae gwaredu’r gwastraff gwyrdd hwn trwy ei gladdu mewn safle tirlenwi yn anghynaliadwy ac yn gwastraffu adnoddau naturiol. 

Ewch i dudalen 2

Bookmark and Share